‘Byddwch yn agored â'r cyhoedd ynghylch y bygythiad i wasanaethau ym Mangor’: Galwad Siân Gwenllian AC.

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon Siân Gwenllian yn galw ar Brif Weinidog Cymru i fod yn ‘agored a thryloyw’ â’r cyhoedd ynghylch y bygythiad i wasanaethau fasgiwlar brys yn Ysbyty Gwynedd Bangor, a chadarnhau pryd yn union y penderfynwyd yn swyddogol i is-raddio’r gwasanaeth.

Bydd Siân Gwenllian AC yn codi'r mater yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw wrth i bryderon gynyddu ynghylch y diffyg tryloywder yn y broses o benderfynu ar ddarpariaeth gofal fasgiwlar Ysbyty Gwynedd. Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig ac o dan gyfrifoldeb uniongyrchol Llywodraeth Llafur Cymru.

Mae pryderon penodol wedi eu codi ynglŷn â’r broses a arweiniodd at y Bwrdd Iechyd i wneud tro pedol ar addewid i gadw’r gwasanaeth fasgiwlar byd enwog yn yr ysbyty, er gwaethaf gwrthwynebiad gan gleifion, meddygon a gwleidyddion lleol.   

DywedoddSiân Gwenllian AC,

‘Mae fy etholwyr a minnau wedi synnu at y ffordd y mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi delio gyda’r mater yma, trwy gyflwyno newidiadau iechyd pell-gyrhaeddol heb ddim atebolrwydd.’  

‘Mae’n rhaid i Brif Weinidog Cymru egluro sut gwnaed y penderfyniadau hyn a pham fod yr holl broses wedi ei lywio gan dorri addewidion, datganiadau camarweiniol a diffyg tryloywder o’r cychwyn.’

‘Mae’r ymatebion yr wyf wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Llafur Cymru a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn methu lleddfu y pryderon difrifol sydd gennyf i, a nifer cynyddol o fy etholwyr.’ 

‘Dro ar ôl tro rwyf wedi gofyn am wybodaeth ynglŷn â sut yn union y gwnaed y penderfyniad i symud gwasanaethau argyfwng fasgiwlar.’

‘Mae llythyr a yrrwyd at Feddygon Teulu yn Chwefror 2018 yn nodi yn glir y bydd gwasanaethau argyfwng yn cael eu cadw yn Ysbyty Gwynedd ac mae cofnodion cyfarfod y Bwrdd Iechyd ym mis Mawrth yn cadarnhau hynny.’

‘Rydym nawr ar ddeall NA FYDD gwasanaethau fasgiwlar brys yn cael eu diogelu yn Ysbyty Gwynedd. Rwyf eisioes wedi gofyn i Lywodraeth Llafur Cymru ac i’r Bwrdd Iechyd gyflwyno munudau sy’n cadarnhau'r newid polisi yma, ond hyd yn hyn does dim ateb wedi dod i law’

‘Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi dewis diystyru ceisiadau am asesiadau effaith symud gwasanaeth fasgiwlar brys o Ysbyty Gwynedd ar gleifion sy’n byw ym mhellteroedd gogledd orllewin Cymru.’

‘O ganlyniad, mae newidiadau pell-gyrhaeddol yn cael eu gwthio trwy’r drws cefn gyda ychydig iawn o graffu cyhoeddus a nesa peth i ddim tryloywder, ar draul gofal cleifion ac yn y pen draw, eu diogelwch.’   


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd