AC Arfon yn croesawu buddsoddiad lleol ond yn pryderu am oedi yn y penderfyniad

Llun_-_Picture_-_Sian_-_Gisda.JPG

Mae AC Cynulliad Arfon Siân Gwenllian wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru eu bod am fuddsoddi 3.7M mewn 13 cynllun mewn ardaloedd difreintiedig ar draws Cymru, gan gynnwys 2 yn Arfon,  gyda’r bwriad o wella cyfleusterau cymunedol. Ond fe fynegodd bryder mawr ar yr un pryd bod dau gynllun wedi gorfod aros yn hir i glywed os oeddynt yn llwyddiannus ai peidio a bod gwersi i’w dysgu o ganlyniad i hyn.

“Rydw i’n falch iawn bod dau gynllun yn Arfon fy etholaeth i yn mynd i fod yn derbyn arian haeddiannol iawn er mwyn iddynt fedru symud ymlaen gyda’u cynlluniau a gyda’u gweledigaeth gymunedol,” meddai Siân Gwenllian. “Llongyfarchiadau mawr i Gisda, menter gymdeithasol yng Nghaernarfon sydd yn cynnig cefnogaeth a chyfleoedd i bobol ifanc fregus, ar eu grant o £370,000. Bydd hyn yn eu galluogi i brynu’r adeilad sy’n lleoliad iddynt ers tair blynedd a fydd yn rhoi sicrwydd tymor-hir i’r cynllun a’r cyfle i ddatblygu ymhellach. Cyflwynwyd y cais bron i 12 mis yn ôl ac mae’r oedi wedi creu pryder ac ansicrwydd diangen.
“Rydw i’n hynod o falch hefyd dros Grŵp Datblygu Fron sydd wedi cael newyddion o ddyfarniad grant werth £195,000 a fydd yn caniatáu iddynt drawsnewid yr hen Ysgol Bronyfoel yn Ganolfan Fron gyda lle i aros mewn steil ‘bunkhouse’, gan ddod a bywyd a chyfleoedd newydd i’r ardal. Aeth y cais hwn i mewn i Lywodraeth Cymru 14 mis yn ôl. Yn y dyddiau dyrys sydd ohoni mae hi’n hollbwysig bod pobol leol sydd yn cynnig prosiectau cymunedol pwysig fel rhain yn cael y cyfathrebu gorau gan y rhai sydd yng ngofal y penderfyniadau, gan fod ein cymunedau’n gweiddi allan am fuddsoddiad a gan nad yw amser bellach ar eu hochr. Gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn dysgu gwersi o’r broses hon ac yn cymryd camau i osgoi oedi fel hyn y dyfodol.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd