Adran frys newydd i Ysbyty Gwynedd

SianG.jpg

Mae AC Arfon Sian Gwenllian wedi croesawu’r newyddion bod Ysbyty Gwynedd am gael adran frys newydd o’r diwedd. Gweler cyhoeddiad Llywodraeth Cymru isod.

Medd Sian Gwenllian, ‘Rydym wedi aros yn rhy hir am y newyddion yma ac rwyf yn awyddus i ddiolch yn fawr i’r rhai sydd wedi gweithio’n ddi-flino dros gael yr adnoddau newydd sbon yma, ac i’r rhai sydd wedi ymgyrchu efo fi i gael y buddsoddiad yma.
Mae’r adran fel mae hi lawer rhy fach a hen ffasiwn i fedru gwasanaethu’r 52,000 o gleifion sydd ei angen bob blwyddyn.
Mi fydd pobol gogledd orllewin Cymru yn cael dipyn gwell chwarae teg ac rwy’n arbennig o falch bod ardal ar wahan wedi ei bennu ar gyfer trin plant.

Dymunaf ddiolch i’r staff sydd wedi darparu gwasanaeth ardderchog yma dros nifer o flynyddoedd er gwaetha’r adnoddau anfoddhaol. Maent hwythau hefyd yn haeddu cael gweithio mewn awyrgylch mwy addas. Maen nhw rwan yn wynebu cyfnod o heriol o geisio cynnal y gwasanaeth tra bod y trawsnewid a’r adeiladu yn mynd yn ei flaen ond rwy’n argyhoeddiedig y bydd y canlyniad yn ei wneud yn werthchweil. Edrychaf ymlaen at weld y cynllun ar waith fis nesaf.’

Bron i £14 miliwn ar gyfer gwelliannau i Adra Frys Ysbyty Gwynedd
Y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi rhoi sel bendith i £13.89 miliwn o gyllid i wella’r gwasanaeth argyfwng a brys yn Ysbyty Gwynedd, Bangor

Bydd y cyllid sylweddol hwn yn talu am wella’r seilwaith yn Ysbyty Gwynedd, er mwyn ei wneud yn haws i’r ysbyty ymdopi pan fydd y galw’n cynyddu’n sylweddol o bryd i’w gilydd. Bydd hefyd yn gwella’r amgylchedd i’r cleifion, y staff a’r ymwelwyr fel ei gilydd.

Bydd y cyllid hwn ar gyfer y cyfnod 2017-18 a 2019-20, a disgwylir i’r gwaith ddechrau ym mis Mawrth 2017. Bydd y buddsoddiad yn darparu’r canlynol:
•Un pwynt mynediad ar gyfer yr adran
•Tair ystafell brysbennu
•Ardal dadebru gyda phedair cilfan, a chilfan ynysu ar wahân sydd â mynediad allanol
•Wyth ciwbicl a dwy ystafell driniaeth
•Wyth cadair ar gyfer mân anafiadau
•Uned asesu gan gynnwys ystafell aros ar gyfer perthnasau
•Cyfleusterau pediatreg, gan gynnwys tair ystafell asesu ac ystafelloedd aros penodol ar eu cyfer.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd