AELOD CYNULLIAD YN BEIRNIADU TORRI GRANT GWISGOEDD YSGOL AR DROTHWY DADL YN Y SENEDD AR DLODI PLANT

llun_datganiad_gwisg_ysgol.jpg

Bydd dadl gan Blaid Cymru yn y Senedd heddiw am dlodi plant yng Nghymru. Yn cymryd rhan yn y ddadl mae Sian Gwenllian AC Arfon ac mae hi wedi beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru am ddiddymu’r grant gwisgoedd ysgol a ddaw i ben y flwyddyn nesaf a hynny mewn cyfnod pan fo plant a theuluoedd yn brwydro yn erbyn heriau cynyddol o bob math.

 

Yng Ngwynedd – diolch i bolisi Plaid Cymru – mi fydd y cyngor yn dal i gynnig y grant hollbwysig yma er gwaetha’r toriad gan Lywodraeth Lafur Cymru, ac mae Sian Gwenllian AC yn croesawu hynny.

Bydd dros 800 o blant yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan Gyngor Gwynedd er mwyn cynorthwyo rhieni sy'n cael trafferth i gwrdd â gofynion ariannol gwisgoedd ysgol. Mae grantiau gwisg ysgol gwerth £105 y plentyn yn cael eu dosbarthu i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi a bydd y teuluoedd hyn yn parhau i dderbyn y gefnogaeth yma er gwaetha’r ffaith y bydd y grant Llywodraeth Cymru yn dod i ben y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Sian Gwenllian, AC Arfon a Gweinidog Cysgodol Cyfartaledd yn y Cynulliad:

“Rydw i’n falch iawn bod Cyngor Gwynedd wedi medru dal ati gynnig y grant yma mae cymaint o deuluoedd yn dibynnu arno. Mae rhai teuluoedd yn yr ardal hon yn ei chael hi’n anodd iawn i ddal dau ben llinyn ynghyd – rydym yn gweld hynny gyda’r galw cynyddol ar wasanaeth y banciau bwyd, a bydd Credydau Cynhwysol yn achosi straen ariannol pellach ar deuluoedd. Mae costau byw cyffredinol yn cynyddu ac mae oedi mewn budd-daliadau yn golygu nad yw rhai teuluoedd yn gallu fforddio prynu bwyd heb son am wisgoedd ysgol newydd.”

Cafodd cyfanswm o 842 o bobl ifanc gefnogaeth gan Wynedd a Llywodraeth Cymru yn ystod 2016 i 2017. Gyda thros deg wythnos yn dal i fynd yn y flwyddyn ysgol gyfredol, mae 810 o ddisgyblion eisoes wedi derbyn y gefnogaeth sylfaenol hon.

Dywedodd Hywel Williams AS,

“Un o egwyddorion sylfaenol Plaid Cymru Gwynedd yw cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd difreintiedig. Mae rhaglen llymder didrugaredd y Ceidwadwyr yn San Steffan a’r Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru yn golygu bod teuluoedd yn gorfod gwneud i ychydig iawn o bres fynd yn bell iawn, a dydi gwisgoedd ysgol ddim yn foeth ond yn hanfod. Mae'n ddiffyg sylfaenol cosbi aelodau difreintiedig o'n cymunedau ac mae Plaid Cymru’n sefyll yn gadarn yma yng Ngwynedd er mwyn cefnogi ein pobl ifanc yn eu haddysg ac yna yn eu llwybrau i waith.”

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd