Cyhuddo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Llafur o ‘Aneffeithiolrwydd rheolaethol’

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon Siân Gwenllian wedi cyhuddo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Llafur Cymru o ‘aneffeithiolrwydd rheolaethol’ wrth ymdrin â’r broses ymgynghori a’r newidiadau pell-gyrhaeddol i wasanaethau fasgiwlar brys yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Wrth gwestiynu Lesley Griffiths yn y Senedd heddiw (a oedd yn llenwi mewn i’r Prif Weinidog Mark Drakeford a oedd ym Mhalas Buckingham) ceisiodd Siân Gwenllian AC gael eglurder ynghylch pryd yn union daeth y Bwrdd Iechyd i benderfyniad i dynnu gwasanaeth fasgiwlar brys o Ysbyty Gwynedd, er eu bod wedi addo y byddai’r gwasanaeth yn aros ym Mangor.

Mewn ymateb, cyfaddefodd Lesley Griffiths fod llythyr swyddogol gan y Bwrdd Iechyd a yrrwyd allan i feddygon teulu ‘wedi achosi dryswch a dylai fod wedi bod yn fwy eglur’ gan arwain i lawer gredu fod darpariaeth gwasanaeth fasgiwlar brys yn Ysbyty Gwynedd wedi ei ddiogelu.

 

Wrth ymateb i Siân Gwenllian AC, dywedodd Lesley Griffiths AC, 

‘A paper did go the Board on 1st March 2018 which stated that ‘patients with diseases of the lower limbs relating to circulation will be managed at both Ysbyty Glan Clwyd and the limb salvage unit as Ysbyty Gwynedd, with provision for elective and emergency admissions and in-patient treatments at both sites.’

‘I think it’s that sentence that has given rise to the confusion. The Paper should have made it more explicit that the provision for elective and emergency admissions to Ysbyty Gwynedd related to diabetic foot and non-arterial cases. Arterial cases will go to Ysbyty Glan Clwyd…You ask about the letter that was sent to GPs and again that letter was sent with the same wording and hence I’m guessing the same confusion was caused.’

 

Dywedodd Siân Gwenllian AC,

‘Heddiw cyfaddefodd Llywodraeth Llafur Cymru fod y cyhoedd wedi eu camarwain ynghylch dyfodol gwasanaethau fasgiwlar brys yn Ysbyty Gwynedd, Bangor gan gydsynio fod camgymeriadau wedi eu gwneud wrth gyfathrebu eu bwriad i symud y gwasanaeth o Fangor.’  

‘Rwyf wedi gofyn sawl tro am eglurder gan y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru ynghylch dyfodol y gwasanaeth pwysig yma, sy’n diwallu anghenion cleifion sy’n byw mewn ardal ddaearyddol eang ac yn ddibynnol ar ofal arbed bywyd brys.’

‘Mae’r broses ymgynghori wedi bod yn llawn diffygion o’r cychwyn; addewidion wedi eu torri, datganiadau camarweiniol a diffyg tryloywder yn y broses. Rwan dyma dystiolaeth bellach o aneffeithiolrwydd llwyr Llywodraeth Cymru i reoli ymgynghoriad cyhoeddus o’r fath bwysigrwydd.’     

'Yn y pen draw, mae hyn yn fater i Lywodraeth Cymru, sydd wedi'r cyfan, wedi bod yn rhedeg Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ers iddo gael ei roi mewn mesurau arbennig yn 2015.'


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd