Cefnogaeth unfrydol i Sian fel ymgeisydd Plaid Cymru Arfon yn etholiadau Senedd Cymru 2021.

 

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon Siân Gwenllian wedi cael ei dewis yn ddi-wrthwynebiad fel ymgeisydd y Blaid ar gyfer Etholiadau Senedd Cymru yn 2021.

Wrth annerch Cynhadledd Wanwyn y Blaid ym Mangor (22.03.2019) dywedodd Siân Gwenllian ei bod yn ‘anrhydedd anferth’ cynrychioli etholaeth Arfon dros y tair mlynedd diwethaf. Cafodd ei dewis yn dilyn dau gyfarfod o aelodau y Blaid ym Mangor a Chaernarfon. 

Ers ei hethol yn 2016, mae Siân Gwenllian wedi bod wrth galon sawl ymgyrch gyhoeddus i warchod gwasanaethau iechyd lleol yn Ysbyty Gwynedd, gan lwyddo i amddiffyn gwasanaethau mamolaeth llawn yn yr ysbyty ynghyd ac arwain ymdrechion i wrthwynebu toriadau i wasanaethau fasgiwlar brys yng ngogledd gorllewin Cymru. Bu hefyd yn gyfrifol am arwain ymgyrch i ehangu addysg feddygol ym Mhrifysgol Bangor, sy’n golygu y bydd myfyrwyr meddygaeth yn gallu hyfforddi fel meddygon llawn ym Mangor. 

 

Dywedodd Siân Gwenllian,

‘Ers bron i dair blynedd, dwi wedi cael yr anrhydedd anferth o gynrychioli pobl Arfon yn ein Senedd cenedlaethol ac rwy’n hynod falch o gael fy newis eto fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer yr etholaeth anhygoel ac amrywiol hon.’

‘Rwy'n falch iawn bod aelodau Plaid Cymru yma yn Arfon unwaith eto wedi ymddiried ynof i fwrw ymlaen â rhaglen lywodraethol ysbrydoledig Plaid Cymru, y mae pobl Arfon a Chymru yn ei haeddu ac sydd ei hangen arnom.

‘Ers fy ethol, rwyf wedi brwydro'n barhaus dros hawliau fy etholwyr i gael mynediad i wasanaethau iechyd lleol yn wyneb ymdrechion cynyddol gan y Bwrdd Iechyd lleol a Llywodraeth Lafur Cymru i dorri gwasanaethau ac israddio gofal cleifion.’

‘Does dim yn bwysicach i bobol na’u hiechyd ac iechyd eu hanwyliaid a byddaf yn parhau i amddiffyn hawliau fy etholwyr i gael mynediad at wasanaethau iechyd yn eu cymunedau, gan glodfori gwaith caled ein staff GIG lleol.’

‘Rwy'n falch fy mod wedi llwyddo i ymladd yn llwyddiannus ac ar y cyd âc unigolion eraill i warchod gofal mamolaeth llawn yn Ysbyty Gwynedd pan geisiwyd canoli'r gwasanaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, gan beryglu bywydau mamau a babanod ar draws gogledd orllewin Cymru.’

‘Gyda'r un egni, byddaf yn parhau i wrthwynebu cael gwared a gofal fasgiwlar brys o Ysbyty Gwynedd wrth i lywodraeth Lafur Cymru barhau i fynd yn groes i farn y cyhoedd a chyngor arbenigol mewn ymgais sinigaidd i fynd ar ôl pleidleisiau ar draul diogelwch cleifion.’

'Diolch i ymdrechion ar y cyd rhwng Plaid Cymru, meddygon teulu lleol, Prifysgol Bangor a sefydliadau meddygol blaenllaw, ildiodd Llywodraeth Cymru i bwysau a chadarnhau y bydd darpar feddygon yn gallu astudio ym Mhrifysgol Bangor drwy gydol eu hyfforddiant o 2019, fel rhan o gynlluniau i ehangu addysg feddygol yng ngogledd Cymru. Cam pellach tuag at sefydlu Ysgol Feddygol lawn yng ngogledd Cymru.

 ‘Rwy'n edrych ymlaen at estyn allan at gymunedau ar draws Arfon yn y cyfnod cyn etholiad 2021 a byddaf yn parhau i fwrw ymlaen â chymaint o ddrysau ag y gallaf i wrando a helpu i fynd i'r afael â'r materion bara a menyn sy'n ymwneud â phobl leol.’


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd