Cael gwared â rôl Comisiynydd y Gymraeg yn annerbyniol medd AC Arfon

Sian_Gwenllian.jpg

Mae cael gwared ar rol Comisiynydd y Gymraeg yn annerbyniol, medd AC Arfon Siân Gwenllian

"Bydd y newid hwn yn gwanhau hawliau siaradwyr Cymraeg ac ni fydd Plaid Cymru fyth yn cefnogi hynny.

"Mae'n hanfodol fod unrhyw gorff newydd fyddai'n hyrwyddo'r Gymrarg yn hyd braich o'r llywodraeth ac yn wirioneddol annibynnol.

"Er ein bod yn cytuno fod lle i leihau biwrocratiaeth, nid drwy gyfyngu ar hawliau siaradwyr a defnddwyr y Gymraeg mae gwneud hynny.

"Hoffai Blaid Cymru weld Asiantaeth yn cael ei sefydlu i hyrwyddo'r iaith gyda mwy o ffocws strategol ar sicrhau buddiannau economaidd a diwylliannol.

"Mae gwrthod ehangu'r safonau i'r sector breifat yn colli cyfle i ymestyn hawliau siaradwyr Cymraeg yn y gweithlu. Yn dilyn yr helynt wythnos yma gyda'r cwmni Sports Direct, mae'n amlwg mai deddfu yw'r unig ffordd i amddiffyn yr hawliau hynny.

"Does gan Lywodraeth Cymru ddim gobaith o gyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050 os nad yw rheoleiddio cryf wrth galon ei strategaeth.

"Mae cyhoeddiad heddiw yn ‎gam gwag a bydd Plaid Cymru'n parhau i herio'r Llywodraeth i greu strategaethl fwy cyflawn a phellgyrhaeddol."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd