Arian i ddatblygu dau gynllun beicio

DATGANIAD_-_PRESS_RELEASE_-_Cynllun_Beicio_Cycling_Initiative_-_PLAID_ARFON_llun.docx.jpg

Aelod Cynulliad Arfon yn llongyfarch ymgyrchwyr lleol ar sicrhau arian i ddatblygu dau gynllun beicio

Yn dilyn y cyhoeddiad bod arian wedi ei glustnodi ar gyfer cam cyntaf datblygiad lôn feicio ‘castell i gastell’ rhwng Llanberis a Chaernarfon daeth rhagor o newyddion da i ran cynllun Hwb Eryri wrth i Gyngor Gwynedd gytuno i roi arian datblygu i barc beicio blaengar a chyffrous yn ardal hen chwarel Glyn Rhonwy.

Bu Aelod Cynulliad Arfon, Siân Gwenllian, yn trafod gyda Stephen Edwards o Hwb Eryri - cwmni sydd yn ceisio denu datblygiadau awyr agored i’r ardal - a Dafydd Whiteside Thomas a fu’n ymgyrchu’n frwd ers blynyddoedd dros gael lôn las ddiogel i feicwyr a cherddwyr, i’w llongyfarch ar eu llwyddiant.

“Rydan ni’n byw mewn ardal mor hyfryd ac mae pobol leol a thwristiaid fel ei gilydd yn mwynhau manteisio ar weithgareddau antur ac awyr agored sydd yn rhoi’r cyfle iddyn nhw fwynhau yr holl gyfoeth sydd gennym i’w gynnig yn yr ardal hon,” meddai Siân Gwenllian. “Mae Hwb Eryri wedi gweithio’n galed iawn ar gynllun y lôn feics sydd rŵan gam yn agosach at ddod i ffrwyth, a gydag addewid pellach am arian i ddatblygu’r syniad o barc beicio mi fyddai’r ddau gynllun yn plethu i’w gilydd yn wych ac yn creu atyniad gwirioneddol ardderchog i’r ardal hon.”

Gweithio ar budd economi ardaloedd gwledig yw nod Hwb Eryri sydd a’i bencadlys yn Llanberis, ac mae’r datblygiadau ddiweddaraf yma yn gyffrous iawn.

“Rydan ni’n croesawu’n fawr yr arian yma mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn fodlon ei fuddsoddi i alluogi inni fynd ati greu adroddiad yn edrych ar wahanol ffyrdd o greu parc beicio a fyddai’n dod a’r budd mwyaf i ardal Llanberis,” meddai Stephen Edwards o Hwb Eryri. “Ein gweledigaeth ni yw i greu parc ‘reidio rhydd’ cyntaf Prydain, sef parc sydd yn addas i bawb beth bynnag fo’u gallu a’u profiad. Mi fydd yna lwybrau a fydd yn addas i deuluoedd a rhai ychydig yn fwy heriol, ond mi fydd yma rywbeth i bawb. Mae beicio yn weithgaredd boblogaidd iawn, ac rydym yn awyddus i fanteisio ar hynny gan gynnig cyfleon hamdden unigryw i’r bobol sy’n byw yma ac i’r rhai sydd yn ymweld.

“Mi fydd hon yn atyniad fydd yn denu’n lleol ac o ardaloedd ar draws y gogledd gan ein bod mor agos at yr A55. Ac nid dim ond beicwyr fydd yn cael croeso – y bwriad yw i greu llwybrau cerdded hefyd ac ardaloedd i wylio adar a bywyd gwyllt. Mae’n gynllun cyffrous ac yn rywbeth mae Hwb Eryri ynghyd ag ymgyrchwyr lleol wedi bod yn anelu ato ers tro byd.”

Meddai Dafydd Whiteside Thomas, “Rydw i wedi bod yn ymgyrchu ers ugain mlynedd i gael cysylltiad beicio o Lanberis i Gaernarfon ac roeddwn i’n rhan o Rwydwaith Beicio Peris tan i hwnnw ddod i ben. Mae Hwb Eryri ynghyd ag unigolion cefnogol fel fi wedi bod yn ceisio dwyn pwysau ers tro i gael llwybr beicio, ac mae’n braf gweld golau ym mhen draw’r twnel o’r diwedd, a’r gobaith ychwanegol am barc beicio i’r ardal.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd