Galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dyddiad cychwyn gwaith ffordd osgoi Bontnewydd

Bontnewydd.jpg

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams a’r Aelod Cynulliad Siân Gwenllian yn annog Llywodraeth Lafur Cymru i fwrw ymlaen ar frys a chadarnhau dyddiad cychwyn yn gynnar yn y flwyddyn newydd ar gyfer gwaith ffordd osgoi Bontnewydd/ Caernarfon neu wynebu oedi annerbyniol pellach.

Mewn ateb diweddar i gwestiwn gan AC Arfon, Siân Gwenllian, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, y byddai penderfyniad yn cael ei wneud 'yn y gaeaf' gan ysgogi galwadau gan y gwleidyddion lleol i’r Llywodraeth gyhoeddi dyddiad cychwyn ddechrau Ionawr fel bod y gwaith yn gallu dechrau cyn gynted a phosib.

 

Cyfarfu Hywel Williams AS a Siân Gwenllian AC â'r Cynghorydd Peter Garlick ym Montnewydd sydd hefyd yn pwyso am ddyddiad cychwyn ar gyfer y gwaith.

 

Dywedodd Siân Gwenllian AC a Hywel Williams AS,

'Rydym yn teimlo ei bod yn hollbwysig fod dyddiad yn cael ei gyhoeddi cyn gynted ā phosib yn y Flwyddyn Newydd fel y gellir gwneud y paratoadau angenrheidiol ar gyfer dechrau’r gwaith ar y ffordd osgoi ym mis Gorffennaf 2018. Byddai unrhyw oedi pellach yn gwbl annerbyniol.'

'Mae rhwystredigaeth sylweddol yn lleol ynglŷn ag oedi parhus i'r prosiect, a oedd i fod i ddechrau yn 2016 a'i gwblhau erbyn 2018. Mae trafferth gyda tagfeydd yn yr ardal yn dal i fod yn broblem mawr i bobl leol.'

'Mae ymgyrch i recriwtio tri deg o brentisiaid yn disgwyl cadarnhad unwaith y bydd y dyddiad cychwyn wedi ei gyhoeddi, a fydd yn helpu i lenwi'r bwlch yn y diwydiant adeiladu ar draws y gogledd.'

'Bydd unrhyw oedi pellach i gynllun ffordd osgoi Bontnewydd/ Caernarfon hefyd yn debygol o gael effaith ar yr amserlen i hyfforddi prentisiaid newydd, gan roi mwy o bwysau ar y diwydiant.'

'Mae ffordd osgoi Caernarfon yn brosiect pwysig i'r ardal. Yn y tymor hir, bydd yn lliniaru traffig yng nghanol tref hanesyddol Caernarfon, gan annog twf busnes a ffyniant. Yn y tymor byr bydd yn darparu cannoedd o swyddi.'

'Rydym felly'n annog Llywodraeth Cymru i ymrwymo fel adduniad Blwyddyn Newydd i gyhoeddi dyddiad cadarn ar gyfer gwaith i ddechrau ar y cynllun hwn. Mae'n hollbwysig fod y prosiect lleol yma, sy'n hanfodol bwysig yn economaidd yn dechrau cyn gynted a phosib.'


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd