Gwasanaeth Bysus Arfon

Bws_Peris1_CYM.jpg

A.S. LLEOL YN  RHOI CYCHWYN I WASANAETH BYSYS NEWYDD LLANBERIS

 

Lansiodd AS Arfon Hywel Williams yn swyddogol heddiw (26.01.15) wasanaeth bysiau newydd i Lanberis. Bydd yn gwasanaethu cymunedau Llanrug, Brynrefail, Cwm y Glo, Llanberis a Chaernarfon. Mae pencadlys Bws Peris yn Llanberis a bydd yn darparu gwasanaeth dyddiol bob hanner awr rhwng Llanberis a Chaernarfon. Mae gan y cwmni fflyd o bum bws, un goets a bws mini. 

Dywedodd Hywel Williams AS:

 

“Mae hyn yn newydd gwych i bobl Llanberis a’r ardaloedd o gwmpas.

 

Rwyf wedi bod yn gweithio’n agos gyda Bws Peris i hwyluso lansiad y gwasanaeth newydd yma fydd yn gaffaeliad mawr i’r gymuned leol. Mae Bws Peris wedi ei leoli yn  Llanberis ac mae wedi cyflogi gyrwyr lleol, gan gefnogi’r economi leol.

 

Rydw i wrth fy modd y bydd pobl Llanberis, Llanrug, Brynrefail, Cwm y Glo a Chaernarfon ym medru mwynhau’r gwasanaeth newydd o’r wythnos yma ymlaen.

 

Mae’n bwysig cofio nad oes gan bawb gar. Maen nhw’n dibynnu ar y bysys ac mi ddylai’r rheini fod ar gael er hwylustod i deithwyr.

 

Y gwir yw bod yna fwy o alw am wasanaethau nag sydd o arian i’w cefnogi. Dwi’n ofni, ar ôl mwy o doriadau yng nghyllidebau awdurdodau lleol gan y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd, mai cynyddu wneith y pwysau ar wasanaethau lleol, ac mi fydd y sefyllfa’n gwaethygu yn y flwyddyn i ddod."

 

Dywedodd Shane Price o Bws Peris,

 

Mi hoffwn i ddiolch I bobl Llanberis a’r gymuned leol am fod yn gefn i ni. Diolch hefyd i’r Cynghorydd Trefor Edwards am ei gefnogaeth a’i anogaeth gyson.

 

Gobeithio y bydd y gwasanaeth newydd yn ei gwneud hi’n haws i bobl leol fynd o gwmpas a hefyd yn hyrwyddo Llanberis fel lle i ymwelwyr ddod iddo.

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd