AC Arfon yn hyrwyddo gyrfa mewn gofal hosbis plant

Llun_-_Ruth_a_Elis.jpg

Mae Plaid Arfon yn hyrwyddo'r ymgyrch You Can Be That Nurse yn ystod eu Bore Coffi Nadoligaidd fory sy'n codi arian i hosbis plant Tŷ Gobaith.

Mae'r ymgyrch - a lansiwyd gan yr elusen Together For Shorter Lives sy'n cynrychioli hosbisau fel Tŷ Gobaith - yn galw ar i nyrsys ystyried gyrfa mewn gofal diwedd oes i blant, ac yn tynnu sylw at y boddhad sydd ynghlwm â'r swydd.

Mae prinder nyrsus ym maes gofal diwedd oes i blant yn cael effaith negyddol ar safon y gofal sy'n gallu cael ei gynnig i blant a'u teuluoedd. Mae Bore Coffi Nadoligaidd Plaid Cymru yn codi arian i hosbis plant Tŷ Gobaith yn Nyffryn Conwy sydd yn gwasanaethu mwy na 80 o deuluoedd ar draws gogledd Cymru.

Bydd yr arian a godir yn mynd i Dŷ Gobaith yn enw Elis Wynne Griffiths o Lanrug, mab bach Ruth a Bryn Griffiths, a gafodd ofal ardderchog gan nyrsus Tŷ Gobaith drwy gydol ei oes fer, gan gynnwys gofal diwedd oes fan fu farw yn ddwy oed.

Meddai Ruth Griffiths, "Mi fyddwn ni'n ddiolchgar am byth i nyrsus Ty Gobaith am eu gofal a'u cariad. Roedd Elis wrth ei fodd yn mynd i Ty Gobaith - mae'n le llawn hwyl a hapusrwydd, a ddim yn drist o gwbl.
Mae gan bobol ddelwedd o sut le ydi hosbis plant, ond dydi o ddim fel na o gwbl, ac mae gwaith y nyrsus yn gwneud gymaint o wahaniaeth i fywydau teuluoedd fel un ni."

Dywedodd Siân Gwenllian, "Mae croeso i bawb alw heibio Swyddfa Plaid yng Nghaernarfon fory (Dydd Gwener) rhwng 12.30-14.30. Mae hon yn achos hynod bwysig a dwi'n falch iawn o fedru cefnogi."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd