Plaid yn lansio deiseb i warchod dinasyddiaeth Ewropeaidd pobl y DG

Dylai pobl gael yr hawl i gadw eu dinasyddiaeth Ewropeaidd ar ol Brexit, medd Plaid Cymru, wrth iddi lansio deiseb ar-lein.

Mae Plaid eisiau i ddinasyddion Cymru, Yr Alban, Lloegr a gogledd Iwerddon gael yr hawl i gadw eu hunaniaeth a dinasyddiaeth Ewropeaidd ar ol i'r DG adael yr UE, drwy un ai warchod cytundebau sydd eisoes yn eu lle neu ddatblygu model newydd ''Dinasyddiaeth Ewropeaidd Gysylltiol". 

Mae dinasyddiaeth Ewropeaidd yn rhoi'r hawl i ddeilliaid deithio, gweithio, byw ac astudio unrhyw le yn yr UE a llu o hawliau eraill dan gyfraith Ewropeaidd o ran iechyd, addysg, gwaith a diogelwch cymdeithasol.

Wrth lansio'r ddeiseb, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Brexit, Hywel Williams AS:

"Byddai cynlluniau Brexit Llywodraeth San Steffan yn ein hamddifadu o'n dinasyddiaeth Ewropeaidd ac, mewn sawl ffordd, ein hunaniaeth Ewropeaidd.

"Golyga hyn y bydd eich hawl i deithio, gweithio, byw ac astudio yn unrhyw un o 27 o wledydd Ewrop yn cael eu cyfyngu. Golyga y bydd eich hawl i astudio a pheidio wynebu anffafriaeth ar sail eich cenedligrwydd yn cael ei golli. Bydd yn golygu na fyddwch bellach yn Ewropeaidd. 

"Mae dileu dinasyddiaeth rhywun yn erbyn eu hewyllys nid yn unig yn anghywir ond yn ol arbenigwyr cyfreithiol, yn anghyfreithiol dan gyfraith rhyngwladol. Sut all San Steffan gael gwared ar eich hawliau a'ch hunaniaeth yn erbyn eich ewyllys? Sut allan wadu, yn erbyn eich ewyllys, y dinasyddiaeth a roddwyd i chi pan gawsoch eich geni? 

"Mae Llywodraeth San Steffan nid yn unig yn barod i beryglu cyflogau, morgeisi a phensiynau drwy adael y Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau; mae hefyd eisiau cael gwared ar bwy ydym ni a sut ydym yn diffinio ein hunain - ein hunaniaeth.

"Rwy'n Ewropeaidd - Cymro Ewropeaidd, a ni ddylai fod gan unrhyw lywodraeth, wladwriaeth neu gefnogwr Brexit yr hawl i newid hynny i mi nag unrhyw un arall."

Wnewch chi ymuno gyda ni i ddweud wrth San Steffan mai Ewropeaidd ydym ni? Llofnodwch y ddeiseb yma.

A dewch i San Steffan ddydd Mercher 7fed o Fawrth am 11:00am cyn Cwestiynau'r Prif Weinidog, i brotestio y tu allan i Senedd San Steffan. Ymunwch a'r digwyddiad Facebook yma.

Os na allwch ddod, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru i'n Thunderclap yma.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd