Premier lleol o ffilm a ddangoswyd yn COP26

Mae'r ffilm yn rhoi bywyd newydd i un o’n hen chwedlau

Mae disgyblion Ysgol Rhosgadfan wedi cynnal dangosiad cyhoeddus cyntaf o’u ffilm fer a ddangoswyd yn Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd COP26 yn Glasgow.

 

Mae'r ffilm, Blot-deuwedd, yn rhoi gwedd newydd ar un o geinciau mwyaf adnabyddus y Mabinogi sy’n dilyn hanes Blodeuwedd, gwraig Lleu Llaw Gyffes a wnaed o flodau gan y consurwyr Math a Gwydion.

 

“Ôl ddinistriol dyn ar y byd”

 

Ond mae disgyblion Ysgol Rhosgadfan wedi gosod y stori yng nghyd-destun modern newid hinsawdd fel rhan o brosiect Ynys Blastig, cynllun creadigol a gomisiynwyd gan Gyngor Gwynedd i ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

 

Mae’r ‘blot’ yn ‘Blot-deuwedd’ yn cynrychioli ôl ddinistriol dyn ar y byd.

 

Yn ymddangos yn y ffilm fer mae’r prif gymeriad, Hana Hughes, ei chyd-ddisgyblion yn Ysgol Rhosgadfan, a’r actores adnabyddus Ceri Lloyd. Fe’i dangoswyd yn Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd COP26 yn 2021 gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac fe’i canmolwyd fel enghraifft o rôl diwylliant wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

 

Mewn premier lleol o’r ffilm fer yn Galeri Caernarfon, trafododd y Brifathrawes Judith Ann Owen ei balchder o weld disgyblion Ysgol Rhosgadfan yn serennu ar sgrin fawr y ganolfan gelfyddydol.

 

Gwahoddwyd rhieni, gwleidyddion a swyddogion llywodraeth leol i’r dangosiad cyhoeddus ar 21 Ionawr, ac yn ogystal â gweld y ffilm, rhoddwyd hadau iddynt i’w plannu yn eu gerddi.

 

“Neges frawychus o berthnasol”

 

Mae Hywel Williams AS, sy’n cynrychioli’r ardal yn San Steffan wedi sôn am lwyddiant y disgyblion:

 

“Fel pob un o’r Mabinogi, mae gan Blodeuwedd neges frawychus o berthnasol i Gymru heddiw.

 

“Yn y chwedl mae neges oesol am effaith ddinistriol dynoliaeth, sy’n arbennig o berthnasol i oes yr argyfwng hinsawdd.

 

“Mae honno’n neges drymlwythog i’w chyfleu mewn ffilm fer, ond mae plant Ysgol Rhosgadfan wedi llwyddo i wneud hynny’n rhagorol.

 

“Wrth wylio’r ffilm fer, cefais fy atgoffa o bortread yr arlunydd adnabyddus Richard Wilson o’r Wyddfa o gyfeiriad Llyn Nantlle, sy’n cael ei arddagos yn Llundain.

 

“Mae’r portread hwnnw’n ein hatgoffa o le Cymru yn y byd. Efallai wir ein bod yn wlad fechan, ond mae gennym gyfrifoldeb pwysig wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

 

“Fel y soniais wrth y disgyblion, ‘sbïwch allan i’r byd, ond dechreuwch wrth eich traed.’”

 

Mae Siân Gwenllian yn cynrychioli'r ardal yn y Senedd. Dywedodd:

 

“Es i i Rosgadfan i gwrdd â’r disgyblion cyn y Nadolig, ac roeddwn wrth fy modd yn cael gwahoddiad i’r premier yn Galeri Caernarfon.

 

“Ar fy ymweliad cefais anrhegion Nadolig a oedd yn ein hatgoffa o gyfrifoldeb yr unigolyn yng nghyd-destun yr argyfwng newid hinsawdd. Roedd 12 cracer Nadolig, yn cynrychioli 12 diwrnod y Nadolig, yn cynnwys cynghorion dydd i ddydd ar sut i leihau ein hôl troed carbon.

 

“Mae Arfon yn ardal sy’n berwi ag egni creadigol, celfyddydol. Mae rhoi’r cyfle i blant sianelu’r egni hwnnw, a’i gyfuno â materion fel newid hinsawdd yn hollbwysig.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2022-01-28 13:50:51 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd