Siân Gwenllian AC yn cefnogi parti pyjamas mwyaf y byd Mudiad Meithrin

Llun_-_Picture_-_Sian_Gwenllian_-_Mudiad_meithrin.jpg

Fel rhan o ddathliadau’r 45 mlwyddiant, bydd Mudiad Meithrin yn cynnal parti pen-blwydd tra gwahanol sef “Parti Pyjamas Mwyaf y Byd” ar Ddydd Mawrth, Mai 9fed gan geisio torri'r record byd o 2,004.

Meddai Dr. Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Mae Mudiad Meithrin yn edrych ymlaen at gynnal “Parti Pyjamas Mwyaf y Byd” fel rhan o’i ddathliadau pen-blwydd yn 45 ac yn annog pob plentyn ac oedolyn sy’n mynd i’n cylchoedd a’n meithrinfeydd i wisgo pyjamas ar Fai 9fed. Bydd hyn yn ffordd i gylchoedd godi arian gan y bydd pob plentyn yn talu £1 am wisgo pyjamas (a’r arian i’w gadw gan y cylch).”

Mae Ffatri Aykroyds, mewn cydweithrediad â’r Mudiad, wedi creu pyjamas Dewin a Doti i blant yn ogystal. Mae bron i 700 o barau o’r pyjamas arbennig wedi eu gwerthu i’r cylchoedd fel y bydd y plant yn eu gwisgo yn y parti yma ar 9 Mai os dymunant. Wrth gwrs, 'does dim rhaid cael pyjamas arbennig i gymryd rhan – mi wnaiff unrhyw byjamas y tro!

Meddai Siân Gwenllian Aelod Cynulliad Arfon,

“Rydw i wrth fy modd yn cefnogi Mudiad Meithrin yn eu hymdrech i dorri record wrth gynnal Parti Pyjamas Mwyaf y Byd heddiw, ac yn edrych ymlaen at glywed a ydynt wedi llwyddo erbyn diwedd y dydd!”

Ychwanegodd Siân Gwenllian:

“Er mai ychydig o hwyl sydd wrth wraidd y digwyddiad, dylid nodi y byddwn yn defnyddio’r parti hefyd i hyrwyddo pwysigrwydd dysgu trwy chwarae, darllen a chael noson dda o gwsg i blant bach.”

Mae croeso i unrhyw leoliad gymryd rhan ym Mharti Pyjamas Mwya’r Byd i geisio torri record y byd ar Fai 9fed. Cysyllter gyda [email protected] cyn 2.00 y pnawn ar 9 Mai i nodi faint o bobl sydd wedi cymryd rhan yn eich lleoliad. Anelir at gyhoeddi a yw’r record wedi’i thorri ai peidio am 3.00.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd