AS Caernarfon yn beirniadu NatWest am siomi cwsmeriaid y dref

Mae AS Plaid Cymru Arfon Hywel Williams wedi cyhuddo NatWest o siomi eu cwsmeriaid ffyddlon wrth i’r banc gadarnhau cynlluniau i gau eu cangen yng Nghaernarfon y flwyddyn nesaf.

Roedd yr AS lleol yn ymateb i'r newyddion bod y banc yn bwriadu cau eu canghen yng Nghaernarfon erbyn Mehefin 2017 fel rhan o raglen gwtogi ar draws gogledd Cymru.

Mae Mr Williams yn cwestiynu y rhesymeg tu ôl i'r penderfyniad ac yn apelio at benaethiaid y banc i ystyried yr effaith y byddai cau’r gangen yn ei gael ar y dref, sydd â diwydiant twristiaeth cynyddol a llawer o fusnesau newydd.

Dywedodd Hywel Williams AS,

“Mae bancio yn un o'r gwasanaethau sylfaenol a pwysicaf y mae pobl yn dibynnu arno ac rwy’n ymwybodol o’r pryder lleol sydd yna yng Nghaernarfon yn sgil penderfyniad NatWest i gau eu cangen yn y dref y flwyddyn nesaf.”

“Nid yw'n ddigon da i'r banc gynghori pob cwsmer ddefnyddio bancio ar-lein oherwydd rydym oll yn gwybod nad oes gan bawb fynediad i gysylltiad rhyngrwyd dibynadwy, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel rhannau o Arfon.”

“Mae gan fanciau gyfrifoldeb cymdeithasol i wasanaethu ein cymunedau ond yn anffodus mae'r darlun hwn yr un fath ar draws gogledd Cymru, a bydd y cwymp mewn bancio lleol yn brifo y rhai mwyaf bregus unwaith eto.”

“Ar adeg pan fo Caernarfon yn ehangu, nid yw’r penderfyniad yma yn gwneud synnwyr o gwbl.”

“Rwyf wedi galw am gyfarfod brys gyda NatWest i drafod y penderfyniad.”

Ychwanegodd Siân Gwenllian AC,

“Bydd cau banc NatWest yng Nghaernarfon yn ergyd enfawr i gwsmeriaid ac i ganol y dref.”

“Os ydynt yn cau canghennau mewn trefi maint Caernarfon, mae'n codi'r cwestiwn beth fydd yn digwydd i ganghennau mewn cymunedau llai.”

“Mae banciau yn ogystal â fferyllfeydd lleol, swyddfeydd post a gwasanaethau eraill yn bwysig i fywiogrwydd canol trefi ledled Cymru.”

“Maent yn darparu gwasanaeth pwysig i etholwyr a busnesau bach. Mae hwn yn gam yn y cyfeiriad anghywir ar gyfer Caernarfon, sydd yn tyfu fel cyrchfan ganol tref poblogaidd.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd