Newyddion da am wasanaethau bysiau Rhosgadfan

Hywel_Williams___Sian_Gwenllian_1.JPG

Daeth newyddion da am y gwasanaeth bysiau rhwng Rhosgadfan a Chaernarfon gyda chyhoeddiad y bydd siwrnai newydd yn cael ei ychwanegu at y gwasanaeth 1F o’r wythnos hon ymlaen. Bellach bydd modd teithio o Gaernarfon i Rosgadfan am 18.30 ac o Rosgadfan i Gaernarfon am 19.46.

Bu’r Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams a’r Aelod Cynulliad Siân Gwenllian yn cynnal cyfarfod brys gyda Chyngor Gwynedd yn gynharach eleni er mwyn lleisio pryderon etholwyr ynghylch newidiadau i amserlen gwasanaethau bysiau lleol.

Mae’r ddau wedi derbyn nifer o gwynion gan etholwyr sy’n pryderu ynghylch y newidiadau sydd wedi arwain at leihad sylweddol yng ngwasanaethau bysiau mewn rhai cymunedau yn Arfon. Codwyd pryderon penodol am wasanaethau yn Nyffryn Nantlle, Carmel, Fron, Penisarwaun, Deiniolen, Nebo, Groeslon a rhannau o Gaernarfon. Sicrhawyd Hywel Williams a Siân Gwenllian ar y pryd bod y Cyngor yn cymryd camau cadarnhaol i gynllunio ateb cynaliadwy tymor hir i’r broblem.
“Daeth y prinder bysus yn ardal Rhosgadfan i’n sylw ni mewn cymhorthfa ddiweddar ble bum yn clywed gan nifer o etholwyr am y problemau gyda’r gwasanaeth,” meddai Siân Gwenllian. “Mae pryderon wedi codi hefyd am y diffyg lle ar fysus ysgol sydd yn golygu bod nifer o blant yn gorfod sefyll ac felly yn mynd heb wregus diogelwch.”
Daeth cadarnhad hefyd y bydd y problemau gorlwytho sydd wedi bod yn digwydd ar rai dyddiau yn cael eu datrys drwy sicrhau bod plant Rhosgadfan yn teithio ar fws arall o fis Medi eleni ymlaen a bydd hyn yn rhyddhau 20 o seddi ychwanegol.

Rhian Cadwaladr o Rosgadfan oedd un o’r rhai fu’n codi’r mater efo Siân Gwenllian yn y gymhorthfa ac mae hi’n croesawu’r datblygiad yma.

“Dwi’n falch ac yn ddiolchgar bod y gwasanaeth yn agosach at yr hyn oedd o o’r blaen. Mae’n gwneud gwahaniaeth mawr i fy mab ac i eraill sydd ddim yn gyrru. Maen nhw’n hollol ddibynnol ar y bysiau i fynd a dod o’u gwaith ac i gymdeithasu’n lleol.”
Mae Siân Gwenllian a Hywel Williams AS yn cynnal cymhorthfeydd wythnosol mewn rhannau gwahanol o Arfon er mwyn ceisio datrys problemau trigolion lleol – cadwch lygad yn y wasg leol ac ar eu tudalennau Facebook am wybodaeth ddiweddaraf am gymhorthfeydd.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd