Deunaw mlynedd ers i Llywodraeth Llafur Cymru addo 1,500 o swyddi, mae safle Parc Bryn Cegin ger Bangor yn parhau i sefyll yn wag, a dim un swydd wedi ei chreu

parc_bryn_cegin.png

Wythnos diwethaf yn y Senedd yng Nghaerdydd gofynnodd AC Arfon, Siân Gwenllian i’r Prif Weinidog Carwyn Jones am esboniad.

Cyhoeddwyd cynlluniau’r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn y flwyddyn 2000 ac fe adeiladwyd lonydd newydd, cylchfan a mynedfa newydd i’r safle gyda disgwyl y byddai buddsoddiad pellach yn y safle a’r ardal gyfagos. Roedd addewid o 1,500 o swyddi, rhywbeth oedd i’w groesawu mewn ardal ble mae cymaint o bobl ifanc yn gorfod gadael eu cymunedau i chwilio am waith.

Meddai Siân Gwenllian:

“Unwaith eto mae Arfon yn gorwedd tua gwaelodion rhestr blaenoriaethau’r Prif Weinidog Carwyn Jones, ac mae’r ffaith fod pobol Bangor wedi bod yn aros am ddeunaw mlynedd i weld rhywbeth yn digwydd ym Mharc Bryn Cegin yn gwbl chwerthinllyd. Mae yna bobol ifanc yn yr ardal hon wedi eu geni, wedi tyfu fyny ac wedi symud i ffwrdd i ganfod gwaith yn yr amser mae Llywodraeth Cymru wedi ei dreulio yn tindroi dros y mater yma. Os na fyddwn yn ofalus mi fydd yna genhedlaeth arall o bobol ifanc yr ardal hon yn cael eu siomi. Yr wythnos hon mi wnes i alw ar Carwyn Jones i gadw at yr addewid wnaeth o i bobol yr ardal yma, a blaenoriaethu datblygu’r safle yma.

“Fe godwyd gobeithion y trigolion droeon – ond i’w chwalu yn rhacs.

“Wrth ymateb i mi yn y Senedd soniodd y Prif Weinidog am y syniad o adnodd hamdden byddai wedi golygu bod darn o’r safle’n cael ei ddefnyddio, gyda’r gobaith y byddai’n denu busnesau eraill i’r ardal oherwydd bod yr adnodd hamdden yno.

“Be mae’r Prif Weinidog yn methu a deall yw bod yr opsiwn yma yn annhebygol o ddigwydd gan nad oes gan y sector bwyd cyflym diddordeb mewn buddsoddi yn y safle. Hefyd mae gennym nawr bedair sgrin sinema ym Mangor a Chaernarfon a chynlluniau i ddatblygu bwytai/ardal fwyd ar Stryd Fawr Bangor.

“Fodd bynnag, mae newyddion da nad oedd y Prif Weinidog yn ymwybodol ohono. Mae Parc Cegin wedi ei adnabod fel ‘hwb strategol’ gan Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru sy’n gweithio ar Fargen Twf Gogledd Cymru - menter Llywodraeth DG. Pe byddai arian yn dod ar gyfer y Fargen Twf, gall rhywfaint ohono cael ei wario ar ddatblygiad pellach o Barc Bryn Cegin. Mi fyddai’n mynd ar ôl yr agwedd yma dros y misoedd nesaf. Er hynny, nid oes dim byd yn bendant ac mi fyddai’n gweithio gyda phobl leol i wneud yn siŵr fod yr achos ar gyfer datblygu Parc Bryn Cegin yn cael ei chlywed, yn uchel ac yn glir.”

Mae amynedd pobl yr ardal a’u Haelod Cynulliad yn prinhau, ac mae Siân Gwenllian yn mynnu y bydd yn dal ati i ddwyn pwysau ar y Llywodraeth i ddod â buddsoddiad i Barc Bryn Cegin, fel y gwnaethon nhw addo deunaw mlynedd yn ôl.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd