Galw am eglurder ynglŷn â chynllun datblygu Parc Bryn Cegin

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams a’r Aelod Cynulliad Siân Gwenllian yn galw am eglurder ynglŷn â chynydd yn natblygiad Parc Bryn Cegin ger Bangor, flwyddyn ers i ymgyrchwyr lleol lwyddo i ddwyn perswad ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo rhan o’r safle 90 acer ar gyfer dibenion hamdden.

Roedd Hywel Williams AS yn rhan o ymgyrch a lwyddodd i berswadio Llywodraeth Lafur Cymru i newid hawliau cynllunio rhan o’r safle o fusnes i hamdden, yn dilyn galwadau cynyddol gan bobl lleol ym Mangor i ddatblygu’r safle busnes sydd wedi bod yn wag ers dros bymtheg mlynedd.

Derbyniodd yr ymgyrch hwb sylweddol pan gyhoeddodd Liberty Properties Ltd eu bod yn awyddus i ddatblygu’r safle gan adeiladu sinema, tŷ bwyta a hwb twristiaeth ar y safle, gyda’r potensial i greu canoedd o swyddi newydd.

Bron flwyddyn ers y cyhoeddiad a heb unrhyw gynlluniau cadarn wedi eu cyflwyno, mae Hywel Williams AS a Siân Gwenllian AC yn galw am eglurder ynglŷn â’r cynlluniau.

Dywedodd Hywel Williams AS,

"Mae'n bron i flwyddyn ers i ni ddarllen gyda brwdfrydedd bod datblygwr hamdden â diddordeb mewn trawsnewid rhan o barc busnes Bryn Cegin i mewn i sinema a bwyty yn dilyn ymgyrch leol i ddod â buddsoddiad i'r safle.”

“Heb unrhyw gynigion pendant wedi eu cyflwyno ac atebion anelwig gan Lywodraeth Cymru, mae pobl leol eisiau sicrwydd bod cynnydd yn cael ei wneud mewn perthynas â'r datblygiad hamdden a gyda gweddill y safle.”

"Byddai'r datblygiad yma yn gatalydd ar gyfer buddsoddi yn y safle i’r dyfodol. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddod ymlaen gyda chynllun manwl ar sut yn union y maent yn bwriadu denu buddsoddiad i’r chwe deg saith acer sydd yn weddill o’r safle.”

"Mae Siân Gwenllian a minnau wedi bod yn lobïo Llywodraeth Lafur Cymru am y diffyg cynnydd yma er mwyn canfod pa gefnogaeth y maent yn ei ddarparu i'r rhai sy'n mynegi diddordeb yn y safle a pha gamau pellach y maent yn eu gymryd i ddod â buddsoddiad i'r ardal.”

Dywedodd Siân Gwenllian AC,

“Ym mis Rhagfyr 2015, roedd yn ymddangos bod rhywfaint o newyddion da. Cyhoeddwyd fod Liberty Properties Developments Ltd wedi cael eu dewis i greu cynllun hamdden teuluol wrth fynedfa Parc Bryn Cegin."

“Ond hyd yn hyn, does dim cynllun wedi cael ei gyflwyno ac rwyf wedi ysgrifennu at Liberty Properties yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf. Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau hefyd nad oes cais cynllunio wedi ei dderbyn.”

“Cyfarfûm yn ddiweddar ac ymgyrchwyr lleol sydd hefyd yn ceisio darganfod beth sy'n digwydd. Maent yr un mor rhwystredig â minnau â’r diffyg cynnydd ar ôl iddynt gasglu 4,000 o enwau ar ddeiseb yn galw am ddatblygiad hamdden.”

“Byddaf yn parhau i wthio am eglurder ar y mater hwn a byddaf yn dilyn y mater ac egni.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd