AC Plaid Cymru yn addo bod yn bencampwr canser y coluddyn

Mae Siân Gwenllian AC wedi addo bod yn bencampwr canser y coluddyn er mwyn arwain newid yn y Cynulliad ac yn ei etholaeth ar gyfer pobl sydd yn cael eu heffeithio gan yr afiechyd.

Canser y Coluddyn yw’r pedwerydd math mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru, ac eto yr ail uchaf i ladd. Pob blwyddyn mae dros 2,200 yn cael diagnosis o’r afiechyd, a dros 900 yn marw yn ei sgil.

Gall rhaglen Sgrinio Coluddyn Cymru ddarganfod yr afiechyd yn gynnar mewn pobl sydd yn dangos dim symptomau, pan mae’n haws ei drin a cyfle gwell o’i oroesi. Llynedd, fe wnaeth llywodraethau yng Nghymru a Lloegr gyhoeddi gostwng oed sgrinio canser coluddyn o 60 i 50 gan ddefnyddio profion “faecal immunochemical test (FIT)”. Bydd cyflwyno’r fenter yma yn arbed mwy o fywydau. 

Mi fydd Siân Gwenllian AC yn gweithio gyda Bowel Cancer UK i wella darganfyddiad cynnar a chael mynediad i driniaeth a gofal yn Arfon ac yn genedlaethol. Trwy ddod a phobl at ei gilydd, fel cleifion a theuluoedd, meddygon a nyrsys, gwyddonwyr a gwleidyddion mi fydd Bowel Cancer UK yn creu dyfodol lle bydd neb yn marw o’r afiechyd.

Meddai Siân Gwenllian AC, “Nid yw’n dderbyniol fod cymaint yn marw o ganser y coluddyn pob blwyddyn.  Dyna pam dwi’n falch o weithio gyda Bowel Cancer UK fel bod gwir newid yn digwydd trwy fy rôl fel pencampwr canser y coluddyn. Rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio fy swydd yn y Cynulliad i alw am newid fydd yn gallu gwella canlyniad i gleifion. Gyda’n gilydd fe allwn arbed pobl rhag marw o ganser y coluddyn.

Dywedodd Lowri Griffiths, Pennaeth Cymru yn Bowel Cancer UK: “Dwi’n hynod o falch bod Siân Gwenllian wedi addo bod yn bencampwr canser y coluddyn. Mi fydd Siân yn gyd-weithiwr gwerthfawr wrth i ni roi canser y coluddyn ar yr agenda gwleidyddol ac ymgyrchu am welliannau hanfodol i wasanaethau cleifion canser y coluddyn yn genedlaethol ac yn Arfon”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd