AC Plaid Cymru yn annog defnydd o Undebau Credyd

DATGANIAD_-_PRESS_RELEASE_-_Undeb_Credyd-Credit_Union_-_llun.jpg

Mae mwy a mwy o bobl yn canfod eu hunain yn slaf i ddyled nad ydynt yn gallu fforddio ei thalu gan nad ydynt yn gallu cael credyd ar raddfa fforddiadwy ac felly yn disgyn i fagl y rhai sy’n cynnig benthyciadau llog uchel medd AC Arfon Siân Gwenllian, sydd yn annog pobl i ddefnyddio eu hundebau credyd lleol yn lle un o’r cwmnïau mawrion.

“Mae llawer o fanteision i’w cael o fod yn gallu cael credyd yn rhwydd gan fod modd ei ddefnyddio ar gyfer costau annisgwyl neu i brynu rhywbeth arbennig, neu fel arian wrth gefn at ddiwrnod llwm”, meddai Siân Gwenllian. “Ond gyda phwysai ariannol cyflogau isel a swyddi sero-awr; oedi mewn budd-daliadau a chynnydd mewn rhent preifat mae pobol yn troi’n gynyddol at y benthycwyr ‘diwrnod cyflog’ er mwyn diwallu eu hanghenion dyddiol, ac mi fydd y sefyllfa’n gwaethygu pan ddaw Credyd Cynhwysol i rym.”

Mae’r farchnad credyd wedi tyfu i’r fath raddau dros y trideg neu’r pedwardeg mlynedd diwethaf ac wedi dod yn fusnes mawr, gyda benthycwyr ‘diwrnod cyflog’ llai egwyddorol yn hysbysebu eu gwasanaeth ar deledu ac ar draws y cyfryngau cymdeithasol gan gynnig gwasanaethau ariannol sydd yn chwarae ar ofidiau ariannol pobl fregus sydd yn cael eu denu gan yr arian ymddangosiadol hawdd sydd yn cael ei gynnig.

Mae hyn oll wedi ysgogi’r actor Hollywood a’r ymgyrchydd o Bort Talbot, Michael Sheen, sydd yn lysgennad dros Undebau Credyd Cymru, i lansio’r ymgyrch End High Cost Credit fis diwethaf. Mae’n debyg bod Sheen wedi defnyddio swm arwyddocaol o’i arian ei hun er mwyn cyllido cynghrair o gwmnïau credyd sydd yn cynnig telerau teg gydag ef ei hun yn gweithredu fel y cyswllt a’r wasg ac yn gynrychiolydd ymgyrchoedd ac ymwneud efo’r cyhoedd.

“Cyhuddiad sydd yn aml yn cael ei daflu at bobol sydd mewn dyled credyd yw na ddylent brynu rhywbeth os nad ydyn nhw’n gallu ei fforddio fo, ond mae credyd yn aml yn cael ei ddefnyddio at ddibenion a fyddai’n cael eu hystyried yn hanfodol” medd Siân Gwenllian. “I lawer mae’r dyddiau o ddefnyddio credyd at achlysuron arbennig wedi hen fynd, gyda nifer cynyddol o deuluoedd yn defnyddio credyd i brynu dillad ysgol, ac mae nifer o rieni i blant gydag anableddau yn ei ddefnyddio i brynu cyfarpar arbenigol sydd ei angen ar eu plentyn er mwyn cael ansawdd bywyd da. Ond mae yna ddewisiadau eraill heblaw am fenthycwyr ‘diwrnod cyflog’, sydd yn newyddion da i lawer, gan nad yw mynd heb gredyd yn opsiwn i nifer fawr o deuluoedd.”

Mae 21 undeb credyd ar draws Cymru yn cynnig benthyciadau ar brisiau rhesymol ac yn defnyddio’r arian sy’n cael ei godi er budd y gymuned leol. Mae nifer o resymau da iawn dros ymuno efo undeb credyd – does dim cyfranddalwyr trydydd parti yn mynnu elw ac mae’r gwasanaethau ariannol sy’n cael eu cynnig yn rhoi’r cwsmer – nid elw – yn gyntaf. Does dim costau cudd fel ffioedd cychwynnol neu gosb ad-daliad cynnar, ac rydych yn talu llog ar weddill y ddyled, nid ar y swm a fenthycwyd yn wreiddiol.

Mae Credyd Cynhwysol, system fudd-dal sy’n gweithredu mewn ôl-daliadau, wedi ei gyflwyno fel datrysiad i broblemau dyled wrth annog cyllido a chyfrifoldeb personol. Ond mae tystiolaeth gynnar yn awgrymu y bydd Credyd Cynhwysol yn creu mwy o anawsterau nag y bydd yn eu datrys.

Mae dyled, yn hytrach na bod yn broblem yn ei hawl ei hun neu yn ddewis bywyd, yn ganlyniad i beidio a chael digon o arian i dalu am gostau angenrheidiol - er gwaethaf pob ymgais y diwydiant benthyciadau ‘diwrnod cyflog’ i ddweud fel arall. Mae’r awydd am genhedlaeth newydd o fenthyciadau, cardiau credyd a chwmnïau fel Cash Converters yn deillio o’r angen i dalu am wisg ysgol, siopa neges a hyd yn oed costau tai. Mae’r ddelwedd boblogaidd a’r rhethreg wleidyddol o bobol ddiog, caeth i fudd-dal yn gwastraffu eu harian ar sigarennau, cwrw a theledyddion mawr yn bell iawn o’r gwir.

Cymrwch olwg ar wefan Undebau Credyd Cymru i ganfod eich undeb leol – gallwch fwynhau buddiannau credyd heb iddo reoli eich bywyd ac effeithio’ch iechyd a’ch perthnasau teuluol, rhywbeth sydd yn digwydd yn aml iawn pan fo dyled yn eich rheoli chi yn hytrach na fel arall.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd