Trigolion lleol yn cael cyfle i wyntyllu pryderon goryrru Glasinfryn

Cyfarfod_cyhoeddus_Glasinfryn.jpg

Diolchodd y Cynghorydd Menna Baines, Pentir i’r trigolion lleol fynychodd gyfarfod cyhoeddus i drafod problemau traffig ym mhentref Glasinfryn, ger Bangor yn ddiweddar.

Daeth nifer fawr ynghyd i leisio pryder am gerbydau sy’n goryrru drwy’r pentref gan beryglu diogelwch cerddwyr, yn arbennig, wrth iddynt symud o un rhan o’r pentref i’r llall. Roedd llawer ohonynt hefyd yn poeni bod cerbydau mawr, fel lorïau, yn cael eu harwain drwy’r pentref gan achosi tagfeydd a difrod ambell dro, oherwydd nad yw’r ffordd yn addas ar gyfer cerbydau o’r fath.

“Dwi’n hynod falch o weld cynifer wedi dod atom i rannu eu pryderon efo ni,” meddai’r Cynghorydd Menna Baines sy’n cynrychioli’r trigolion a fynychodd y cyfarfod o ardal Glasinfryn, Waen Wen a Chae-rhun ar Gyngor Gwynedd.

“Mi gafwyd trafodaeth frwd am ddiogelwch cerddwyr yn y pentref, oherwydd bod y ffordd mor gul ac nad oes pafin i gerdded arno. Mae’r sefyllfa i’w gweld yn waeth yn ystod y bore a’r prynhawn yn ystod dyddiau’r wythnos, gan fod y ffyrdd yn brysurach yr adegau hynny o’r dydd wrth i bobl fynd â’u plant yn ôl a blaen i’r ysgol neu deithio’n ôl a blaen i’r gwaith. Diogelwch ein trigolion sydd bwysicaf, felly mae’n beth da ein bod wedi gallu codi’r materion yma efo’r awdurdodau priodol.”



Yn ôl Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Arfon a fu’n cydweithio â’r Cynghorydd i drefnu’r cyfarfod: “Mae’n amlwg fod trigolion Glasinfryn wedi cyrraedd pen eu tennyn efo llif y traffig cyflym sy’n gyrru drwy’r pentref. Dydi ffyrdd culion pentrefi bach ddim wedi eu creu i ddelio efo cynifer o gerbydau na rhai mor fawr. Ein gobaith felly yw y gallwn gydweithio â’r pentrefwyr, y cyngor sir a’r heddlu i chwilio am ddatrysiad i’r broblem sydd wedi bod yn poeni pobl yr ardal ers blynyddoedd.”

Poen meddwl arall y trigolion yw’r cerbydau mawr sydd, mae’n ymddangos, yn cael eu harwain drwy’r ardal gan declynnau sat nav. Clywyd am lorïau yn mynd yn sownd mewn sawl lle yn yr ardal gan greu tagfa, rhai yn difrodi’r hen bont garreg sydd yng Nglasinfryn, ac ar un achlysur, lori yn tynnu ceblau i lawr yng nghanol y pentref.

Cafwyd mewnbwn yn ystod y cyfarfod gan Reolwr Uned Traffig, Prosiectau a Gwaith Stryd Cyngor Gwynedd, yr arweinydd cabinet, y Cynghorydd Dafydd Meurig a chynrychiolydd o Heddlu Gogledd Cymru, y Rhingyll Kevin Bratherton sy’n gweithio ym Mangor.

Codwyd y ffaith fod gyrwyr hwyr y nos yn broblem achlysurol hefyd, gyda phobl ifanc, gan amlaf, yn rasio eu ceir drwy’r pentref.

“Roedd ambell un o’r gynulleidfa yn pryderu y byddai damwain yn debygol o ddigwydd os na allwn gydweithio i geisio dylanwadu ar y sefyllfa,” eglurodd y Cynghorydd Menna Baines.

Cadarnhaodd Rheolwr Uned Traffig y Cyngor y byddai cyfarpar casglu data traffig yn cael ei osod yn y pentref, am gyfnod o 7 diwrnod, fel cam cyntaf. Os yw’r data yn dangos tystiolaeth o oryrru, yna gellir ystyried gweithredu i leddfu’r broblem.

Trafodwyd mesurau fel twmpathau diogelwch, ‘rumble strips’, gosod cyfyngiad cyflymder 20 milltir yr awr yng Nglasinfryn yn lle’r 30mya presennol, ynghyd â’r posibilrwydd o symud yr arwydd 30mya sydd ar ochr Felin Hen i Lasinfryn, fel ei fod yn agosach at y pentref.

Roedd yr Heddlu hefyd yn awyddus i glywed gan y cyhoedd am unrhyw yrru gwrthgymdeithasol a goryrru yn y pentref. Anogwyd y trigolion i adrodd am ymddygiad o’r fath gan fod angen tystiolaeth ar yr heddlu i weithredu.

“Dwi’n falch fod cymaint o bobol wedi dod i’r cyfarfod, mae’n dangos pa mor gryf yw’r teimladau yn lleol am y problemau ym mhentref Glasinfryn a’r cyffiniau. Dwi’n ddiolchgar i ’nghydweithwyr am fynychu ac i’r swyddogion a ddaeth draw i glywed am y pryder a rhannu eu safbwyntiau hwythau,” meddai’r Cynghorydd Baines.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd