Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol Arfon yn eich annog i gefnogi siopau lleol Y Nadolig hwn

Llechi_na_Phethau.jpg

Er mwyn hyrwyddo Sadwrn Busnesau bach ac annog pobl i siopa'n lleol bu Sian Gwenllian AC a'r AS Hywel Williams yn ymweld â siop Llechi a Pethau yng Nghaernarfon a chwrdd â Gill a Jon March y perchnogion a agorodd y siop anrhegion a chrefftau yn y dref 8 mis yn ôl.

"Mae Sadwrn Busnesau Bach yn ddigwyddiad blaengar a phwysig sy'n annog pobol i siopa yn lleol ar adeg o'r flwyddyn pan mae prynianaeth yn uchel", meddai Sian Gwenllian. "Mae siopau fel Llechi a Phethau mewn cystadleuaeth cyson efo'r siopau mwy a gyda siopa arlein, ac mae busnesau bach y stryd fawr yn cael eu gwasgu. Mae siopau bach fel Llechi a Phethau yn gwneud cyfraniad mawr i'r economi leol ac mae'r holl nwyddau sydd ar werth yno wedi eu gwneud gan grefftwyr lleol."

Dechreuodd Jon a Gill March chwilio am siop i'w rhentu pan wnaeth eu busnes argraffu ar lechi fynd yn rhy fawr i'w redeg o'u cartref. Maen nhw wedi ychwanegu at eu marchnadaeth drwy werthu crefftau lleol, ac mae nwyddau iaith Gymraeg yn ogystal â Chymreig ar gael yno a phopeth wedi ei gynhyrchu yng ngogledd Cymru.

Meddai Hywel Williams, "Y Nadolig hwn mi gewch chi anrhegion unigryw mewn siopau bach fel Llechi a Phethau ac mae pob punt sy'n cael ei wario mewn busnes bach lleol yn cael effaith lawer mwy pellgyrhaeddol ar yr economi leol na phunt sy'n cael ei wario mewn archfarchnad neu siop gadwyn. Mae busnes bach lleol yn fwy tebygol o gyflogi'n lleol ac mae gwell adnabyddiaeth ganddyn nhw o anghenion eu cwsmeriaid. Chewch chi ddim y math yna o wasanaeth bersonol mewn archfarchnad neu arlein."

Er mwyn rhoi annogaeth bellach i bobl siopa'n lleol y gaeaf hwn mae meysydd parcio Cyngor Gwynedd am ddim ar ddydd Sadwrn busnesau bach.

"Mae pob math o siopau bach ardderchog ar hyd a lled Arfon, o Lanberis i Fangor a thu hwnt," meddai Sian Gwenllian. "Cefnogwch eich siopau lleol y Nadolig yma!"


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd