AC Arfon yn bencampwr ar ddau rywogaeth prin

DATGANIAD_-_PRESS_RELEASE_-_species_champion_(llun).png

Mae AC Arfon Sian Gwenllian yn Bencampwr Rhywogaeth ar nid un ond ar ddau rywogaeth prin – yr unig Aelod Cynulliad sydd yn bencampwr ar ddau greadur arbennig, sef Llinos y Mynydd a’r Llyngyren Ddiliau.

Yn anffodus mae poblogaeth Llinos y Mynydd wedi bod yn gwanhau ers blynyddoedd ac mae’n debyg mai diffyg bwyd addas sy’n gyfrifol am hynny. Yn wahanol i linosod eraill sydd yn bwyta pryfaid, dim ond hadau mae Llinos y Mynydd yn eu bwyta ac mae amaethu dwys wedi golygu ein bod wedi colli llawer o’n dolydd a fyddai wedi cynnal y llinos, gan olygu bod y niferoedd bellach yn gostwng.

Ond mae trafodaethau llwyddiannus rhwng swyddogion yr RSPB a ffermwyr yn Nant Ffrancon wedi golygu bod y dyfodol yn edrych yn addawol i boblogaeth Llinos y Mynydd.

Mae llyngyr diliau’n ffurfio riffiau byw trawiadol ar lannau creigiog, weithiau hyd at sawl metr o led a metr o ddyfnder. Maent yn gwneud hyn drwy adeiladu tiwbiau o dywod a darnau o gregyn. Yr enw arnynt yw llyngyr ‘diliau’ gan fod y tiwbiau maent yn eu creu’n ffurfio haenau o riffiau ar batrwm diliau. Maent yn bwysig i gadwraeth gan fod riffiau biogenig yn darparu cynefin ar gyfer anifeiliaid eraill a gwymon sy’n byw ar y lan, fel malwod, crancod traeth, pysgod yr anemoni a letys môr.

Mae newidiadau i ddosbarthiad tywod yn cael effaith arwyddocaol ar allu’r llyngyr i gynhyrchu riffiau. Gall hyn gael ei achosi gan weithgarwch dyn, fel tynnu rhwydi, treillio ac adeiladu amddiffynfeydd môr, ac mae’r difrod yn effeithio nid yn unig ar lyngyr ond ar anifeiliaid morol eraill sy’n byw yn y riffiau byw yma.

Hoffai Siân Gwenllian ddiolch i Helen Brooks am greu’r bathodyn Llyngyren Ddiliau a Jane Comer am y bathodyn Llinos y Mynydd, a gynlluniwyd ar gyfer y Diwrnod Gweithredu ‘Show the Love’ a gynhaliwyd i bob Aelod Cynulliad sydd yn bencampwr ar rywogaeth prin.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd