Llafur yn canslo cynlluniau ar gyfer Ysgol Feddygol i'r Gogledd

Sian_Senedd.JPG

Cyhoeddodd y llywodraeth Lafur heddiw na fydd yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau i sefydlu ysgol feddygol yn y gogledd. Mynegodd ACau Plaid Cymru eu siom gyda’r penderfyniad, y ceisiodd Llywodraeth Cymru ei gladdu ar wythnos olaf y tymor.

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhun ap Iorwerth na fydd cael myfyrwyr yn treulio mwy o amser yng ngogledd Cymru yn cymryd lle sefydlu ysgol feddygol.

Galwodd AC Arfon Sian Gwenllian y mater yn frad ar ogledd Cymru.

Dywedodd AC Plaid Cymru dros Arfon Sian Gwenllian:

“Mae’r angen am ysgol feddygol ym Mangor yn glir, ac y mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi cydnabod hyn. Ceisiodd Llywodraeth Cymru gladdu’r ergyd hon i fyfyrwyr meddygol a chleifion yn y gogledd ar ddiwrnod olaf busnes y llywodraeth.

“Brad ar bobl Bangor, Arfon a’r gogledd i gyd yw hyn. Bydd Plaid Cymru yn parhau i ymgyrchu dros greu ysgol feddygol yn y gogledd. Mae’n gam pwysig o ran datblygu gwasanaeth iechyd diogel a chynaliadwy yng ngogledd Cymru, a datblygu gwasanaethau arbenigol y tu hwnt i goridor yr M4.”

Meddai Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhun ap Iorwerth:

"Fe wyddom nad oes modd sefydlu ysgol feddygol dros nos, ond mae’r cyhoeddiad hwn yn ergyd ddifrifol. Rydym yn wastad wedi bod o blaid cydweithio i gychwyn pethau, a dyw dweud y bydd myfyrwyr "yn treulio mwy o amser yng ngogledd Cymru" ddim yn ddigon da. Mae arnom angen myfyrwyr wedi eu lleoli yn y gogledd, mae ar ein GIG eu hangen, a rhaid i ni roi cychwyn ar bethau. Mae’n amlwg nad oes gan y llywodraeth Lafur hon unrhyw uchelgais."

Meddai AS Plaid Cymru dros Arfon Hywel Williams:

“Rwyf wedi dychryn ac yn flin gyda’r cyhoeddiad hwn. Bu’n ddealledig o’r cychwyn cyntaf mai sefydlu ysgol feddygol i Fangor oedd bwriad Llywodraeth Cymru, ac y mae Gweinidogion Iechyd blaenorol Cymru wedi dweud wrthyf i ac eraill fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn Fwrdd Iechyd Prifysgol oherwydd y byddai ysgol feddygol yn cael ei sefydlu mewn partneriaeth â’r brifysgol ym Mangor.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd