AC Arfon yn mynegi pryder am gau Syrjeri yn Rhostryfan

Rhostryfan.jpg

Mae Siân Gwenllian wedi ymweld â phentref Rhostryfan ar ôl i nifer o'r pentrefwyr gysylltu â hi i fynegi eu siom o ddeall bod y feddygfa leol yn cau. Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn y pentref nos Lun, â'r trigolion yn awyddus i wybod pam bod y feddygfa yn gorfod cau ei drysau.

Mae Meddygfa Kendall yn Rhostryfan yn rhan o Hafan Iechyd yng Nghaernarfon ac mae doctoriaid o'r fan honno wedi bod yn cynnal syrjeri yn Rhostryfan ddwywaith yr wythnos. Mae'r gwasanaeth wedi bod yn amhrisiadwy i bobol y pentref a'r ardal, yn enwedig i bobol hŷn a'r rhai gydag anableddau.

Meddai Siân Gwenllian,

"Rydw i wedi derbyn sawl llythyr ac e-bost gan gleifion y feddygfa yn pryderu'n fawr bod y syrjeri am gau, a hynny mor ddisymwth.

Mae syrjeri wedi bod ym mhentref Rhostryfan ers canrif a mwy ac mae'r trigolion wedi derbyn gwasanaeth ardderchog gan y meddygon oedd yn teithio i'r pentref o Gaernarfon.

Mae disgwyl criw mawr o bobol yn y cyfarfod nos Lun, ac mi fyddai'n ceisio cael atebion rhagblaen i'r rhai sydd yn pryderu am y sefyllfa."

Un o'r rhai sydd wedi bod yn llythyru yw Mr Bryn Hughes o Rostryfan, ac fel nifer o bobl eraill mae o'n awyddus i wybod beth sydd wrth wraidd y penderfyniad, ac mae o hefyd yn poeni am ba mor hygyrch fydd y gwasanaeth yng Nghaernarfon pan fydd syrjeri Rhostryfan yn cau.


"Mae hi'n ddigon anodd cael apwyntiad yng Nghaernarfon fel mae hi," meddai Bryn Hughes,

"ond meddyliwch sut fydd hi pan fydd cleifion Rhostryfan isho apwyntiadau yno hefyd?

Ac mae gofyn i'r henoed dalu am dacsi i fynd yno, ac i roi presgripsiwn, ac yn ôl wedyn i gasglu presgripsiwn. Fydd hi ddim yn hawdd i lawer iawn o bobol."

Meddai Hywel Williams AS,

"Rydym yn wynebu argyfwng gofal ar hyd y gogledd. Mae'r sefyllfa ar ei gwaethaf a thra mod i'n amau'n fawr a oes modd datrys hyn, rydw i yn disgwyl i reolwyr iechyd a gweinidogion y llywodraeth i gael trefn ar bethau.

"Dyma'r her dwi’n ei roi iddyn nhw ar ran y bobol rydw i'n eu cynrychioli.

"Rydw i'n pryderu'n fawr am effaith ehangach y penderfyniad yma a'r ffaith y gall greu oedi pellach yn yr aros i weld meddyg i bobol na fedrant aros ac na ddylant orfod aros."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd