Mesurau lliniaru sŵn ar yr A55 yn derbyn sêl bendith wedi ymgyrch hir

ABERGWYNGREGYN.jpg

Mae ymgyrchwyr wedi croesawu ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru fod gwaith i leddfu sŵn traffig o’r A55 ger pentref Abergwyngregyn wedi cael sel bendith ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu.

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams a’r Aelod Cynulliad Siân Gwenllian wedi codi pryderon eu hetholwyr ynghylch llygredd sŵn ar y ffordd ddeuol ers peth amser.

 

Mae Llywodraeth Cymru nawr wedi cadarnhau eu bod am ail-wynebu rhan o’r ffordd ger pentref Abergwyngregyn i gynnwys mesurau lleddfu sŵn. 

 

Dywedodd Hywel Williams AS,

 

‘Mae hyn yn fuddugoliaeth bwysig i bentrefwyr Abergwyngregyn sydd wedi bod yn ymgyrchu ers tro i wella gwyneb ffordd ddeuol yr A55 sy'n pasio wrth ymyl y pentref.'

 

'Er bod llygredd sŵn yn ganlyniad anochel  byw wrth ymyl ffordd brysur, nid yw'r mesurau lliniaru sŵn presennol yn ddigon da. Mae pentrefi eraill ymhellach i'r dwyrain wedi cael arwynebau lleihau sŵn ers amser maith. Rwyf wedi cwyno sawl tro i lywodraeth Cymru fod gadael Aber allan yn annheg.’

 

‘O gofio fod Abergwyngregyn wedi ei leoli ychydig islaw ffordd yr A55, mae sŵn sy'n y traffig sy’n pasio yn cael ei gario i fyny'r dyffryn cul, gan waethygu'r effaith ar bentrefwyr.'

 

'Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cydnabod yr angen i fynd i'r afael â'r sefyllfa ac edrychaf ymlaen at weld y gwaith yn cychwyn er budd pobl leol.'

 

Ychwanegodd Siân Gwenllian AC,

 

'Mae hwn yn newyddion gwych i bentrefwyr Abergwyngregyn sydd i'w llongyfarch ar eu hymgyrch lwyddiannus.'

 

'Mae'r pentref bach hwn yn y dyffryn sy'n arwain at yr enwog, Rhaeadr Aber yn adnabyddus am ddod at ei gilydd i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r gymuned.'

 

'Y tro hwn fe wnaethon nhw arwain ymgyrch unedig ac egnïol i leihau llygredd sŵn.'

 

‘Mae'n gwneud synnwyr perffaith i leihau effaith sŵn traffig gymaint ag y bo modd trwy drin wyneb y ffordd er mwyn lliniaru llygredd sŵn cymaint ag y bo modd.’

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd