Ymgyrch USDAW – ‘Cadw Eich Cŵl Adeg Nadolig’

Gyda’r Nadolig yn agosáu yn sydyn, nod ‘Ymgyrch Rhyddid Heb Ofn’ Usdaw yw tynnu sylw at atal trais, bygythiadau a chamdriniaeth i weithwyr siop. Darganfyddodd arolwg blynyddol diweddar Usdaw, sef undeb y gweithwyr siop a dosbarthu, bod 300 o weithwyr siop yn cael eu cam-drin tra yn eu gwaith pob dydd.

Cynhelir ymgyrch ‘Parch at Weithwyr Siop’ dechrau mis Tachwedd pob blwyddyn, ac mae’n rhan ganolog o’r ymgyrch Rhyddid Heb Ofn. Thema blwyddyn yma ydi ‘Cadw Eich Cŵl Adeg Nadolig’ sydd yn atgyfnerthu’r neges nad yw camdriniaeth yn dderbyniol mewn swyddi bob dydd.

Ymwelodd Aelod Cynulliad Arfon Siân Gwenllian a siop Tesco yng Nghaernarfon er mwyn trafod yr ymgyrch a phrofiadau gweithwyr rheng flaen yno. Esboniodd Cheryl Williams (cynrychiolydd Undeb Usdaw), Sorrell Lloyd a Sheila Evans, bod problemau fel arfer yn codi yn hwyr yn nos ac yn enwedig ar y penwythnosau.

Dywedodd Siân Gwenllian, ‘mae’r sefyllfa yn annerbyniol. Mae pobl sydd yn cynnig gwasanaeth i’r cyhoedd yn haeddu gallu gweithio heb ofn o drais a chamdriniaeth’.

Mae ymgyrch ‘Cadw Eich Cŵl Adeg Nadolig’ yn ceisio tynnu sylw at lefelau tensiwn cynyddol yn ystod y cyfnod siopa Nadoligaidd yn enwedig yn ystod adeg prysur ‘Dydd Gwener Du’.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd