Bwrdd iechyd yn torri addewid i gadw gwasanaethau fasgwlar byd-enwog ym Mangor

Hywel_and_Sian_Ysbyty_Gwynedd.JPG

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon Siân Gwenllian a’r Aelod Seneddol Hywel Williams wedi cyhuddo Llywodraeth Llafur Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dorri eu haddewid o gadw gwasanaeth argyfwng fasgwlar yn Ysbyty Gwynedd wrth i’r Bwrdd Iechyd symud ymlaen â chynlluniau i ganoli gwasnaeth argyfwng fasgwlar yn Ysbyty Glan Clwyd gyda pryder y bydd unrhyw ddarpariaeth brys yn cael eu tynnu o ysbytai Bangor a Wrecsam, mor fuan a Chwefror 2019.

Yn dilyn ymgyrch galed, gan cynnwys deiseb o dros 3,000 o enwau, sawl cwestiwn ysgrifenedig a llafar a hyd yn oed cwestiwn i’r Prif Weinidog yn Nhŷ Cyffredin, dywedodd y bwrdd iechyd ym Mawrth 2018 y byddai Ysbyty Gwynedd ‘yn parhau i ddarparu cefnogaeth argyfwng llawn i gleifion, ac yn gwarchod y gwasanaeth trin coesau sy’n cael ei ddarparu o Ysbyty Gwynedd.’

Mae bellach wedi dod i’r amlwg fod y bwrdd iechyd wedi gwneud tro pedol ac nawr yn adrodd y bydd holl lawdriniaeth fasgwlar cleifion mewnol ac argyfwng yn cael eu lleoli yn Ysbyty Glan Clwyd ac y gallai’r gwasanaeth brys ar gyfer trin coesau (limb salvage service) yn Ysbyty Gwynedd gau. Mae pryderon ymysg staff meddygol a gwleidyddion yng Ngogledd Orllewin Cymru y bydd canoli'r gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd yn arwydd o israddio pellach o wasanaethau Ysbyty Gwynedd.

 

Dywedodd Siân Gwenllian AC,

‘Rwy’n gandryll ar ddau bwynt. Yn gyntaf, bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ceisio ein twyllo dros y 12 mis diwethaf.’

‘Mae’r diffyg tryloywder yn warthus. Mae’n debyg ein bod rwan yn ôl i’r man cychwyn gyda'r gwasanaeth fasgwlar yn cael ei israddio er gwaethaf yr hyn addawyd yn gynharach eleni.’

‘Dwi'r un mor gandryll fod cleifion ar draws Gogledd Orllewin Cymru yn mynd i gael gwasanaeth gwaelach o ganlyniad. Mae’n hanfodol cadw gwasanaeth fasgwlar llawn yn Ysbyty Gwynedd a gwrthwynebu israddio y gwasanaeth yma ac unrhyw wasanaeth arall.’

‘Tair mlynedd yn ôl fe frwydrwyd i gadw gwasanaeth mamolaeth llawn ym Mangor.’

‘Mae’r gwasanaeth fasgwlar yr un mor bwysig a bydd ei golled yn arwain at golli mwy o ddarpariaethau yn Ysbyty Gwynedd sy’n gwasanaethu ardal daearyddol enfawr i’r gogledd ac i gorllewin o Fangor. Mae rhaid ymladd unwaith eto.’

 

Dywedodd Hywel Williams AS,

‘Mae canoli gwasanaethau yn gallu bod yn addas mewn rhai amgylchiadau, ond nid o fewn darpariaeth wledig neu ardaloedd daearyddol eang fel Gogledd Cymru.’

‘Byddai cau yr uned byd-enwog yn Ysbyty Gwynedd yn drychinebus, nid yn unig i’r boblogaeth lleol ond i Ogledd Cymru i gyd.’

‘Dros y blynyddoedd mae’r uned wedi datblygu arbenigedd nad yw’n bosib cael ei debyg mewn uned wedi ei greu o’r newydd mewn ysbyty sydd ar hyn o bryd heb ddim gwasanaeth fasgwlar i allu adeiladu arno.’

‘Mae diogelwch ac ansawdd yn gonglfaen i ddarpariaeth gofal iechyd ac mi fydd bygythiad sylweddol i’r ddau os tynnir gwasanaeth argyfwng fasgwlar o Ysbyty Gwynedd.’

‘Oherwydd diffygion Llywodraeth Lafur Caerdydd ar iechyd, mae cleifion eisioes yn gorfod teithio ymhell, hyd yn oed symud i Lloegr i gael triniaeth, gan roi bywydau y rhai sy’n byw mewn cymunedau ynysig mewn perygl uwch.’


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd