AC Arfon yn pryderu am ddyfodol Ysgol Dysgu Gydol Oes Prifysgol Bangor

 Sian_Gwenllian.jpg

Mae'r newyddion fod Prifysgol Bangor yn ystyried cau'r Ysgol Dysgu Gydol Oes yn pryderu Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Arfon yn fawr ac mae hi wedi gofyn am gyfarfod brys efo'r Brifysgol i drafod y sefyllfa.

“Yn gyntaf, hoffwn ddeall beth fydd yn digwydd i fyfyrwyr sydd newydd ddechrau ar eu cyrsiau yn yr Ysgol.

Yn ail, hoffwn ddeall beth yw oblygiadau'r cau i bobl o'r ardal sydd yn dymuno ymuno a'r byd addysg uwch yn hwyrach mewn bywyd neu'n dymuno astudio yn rhan-amser er mwyn cyd-fynd a'u hamgylchiadau byw. Byddaf yn chwilio am sicrwydd na fydd pobl o'r ardal sy'n dymuno astudio cyrsiau addysg uwch yn hwyrach mewn bywyd yn colli allan yn sgil unrhyw newidiadau.

Yn drydydd, hoffwn sicrwydd y bydd rheolwyr y Brifysgol yn trafod y newid yn fanwl efo staff yr Ysgol gan wrando yn astud ar eu barn cyn dod i unrhyw benderfyniadau.

Rydym yn byw mewn oes lle mae toriadau ariannol yn cael eu gorfodi arnom yn gwbl ddi-drugarog gan y Torïaid yn San Steffan ac mae gan hynny oblygiadau i brifysgolion yn ogystal ag i wasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru.

Ar ben hyn, mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi bod yn tanariannu prifysgolion ein gwlad - gyda prifysgolion Cymru yn derbyn 23% yn llai na phrifysgolion Lloegr.

Mae Plaid Cymru wedi gallu sicrhau na fydd toriadau pellach i'r sector addysg uwch yng nghyllideb 2017-18 ond mae'r sefyllfa yn parhau yn heriol iawn. Ar ben hyn mae'r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn creu ansicrwydd mawr.

Mae Plaid Cymru yn credu fod addysg uwch yn gwbl greiddiol i ffyniant economaidd ein gwlad a phetae'r Blaid mewn llywodraeth, byddai addysg uwch yn cael blaenoriaeth ac yn cael ei ariannu'r deg”.

Ychwanegodd Llyr Gruffydd AC (Ysgrifennydd Cysgodol Plaid Cymru ar Addysg)

“Mae’r newyddion am fwriadau’r Brifysgol i gau’r Ysgol Dysgu Gydol oes ynghyd a dau gwrs arall yn bryderus. Cyn i’r Brifysgol fynd ymhellach mae’n rhaid iddynt gynnal ymgynghoriad llawn gyda phawb sydd ynghlwm a’r Ysgol a’r cyrsiau yma, wedi’r cyfan mae’r penderfyniad yn debygol o gael effaith sylweddol ar fyfyrwyr, staff, a’r gymuned.

Hoffwn hefyd weld y dystiolaeth sy’n sail i’r argymhellion. Byddaf yn cysylltu â’r Brifysgol ar fyrder i ofyn am y wybodaeth yma a chael trafodaeth am yr argymhellion”.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd