Myfyrwyr o ogledd Cymru yn cefnogi galwad AC Arfon am Ysgol Feddygol i Fangor

Mae’r cytundeb cyllidol a wnaethpwyd rhwng Plaid Cymru a Llafur yn y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnwys cyllid ar gyfer datblygu Ysgol Feddygol i Fangor. Cadarnhawyd hyn gan AC Arfon Siân Gwenllian sydd wedi bod yn ymgyrchu’n galed dros hyfforddiant meddygon yng ngogledd Cymru ers ei hethol bum mis yn ol.

Dywedodd Siân Gwenllian AC,

“Yn ystod fy ymgyrch etholiad yn gynharach eleni, mi wnes i addewid y byddwn yn gwneud popeth y gallwn i i gyrraedd y nod o gael Ysgol Feddygol i Fangor. Mae dwy ysgol feddygol yn ne Cymru ac mae hi’n hen bryd i feddygon gael eu hyfforddi yn y gogledd hefyd.”

“Byddai hyn yn mynd beth ffordd at ateb yr angen am ragor o ddoctoriaid yn ein hardal ni. Dengys y tystiolaeth bod meddygon yn aros yn yr ardal ble y cafon nhw eu hyfforddi. Gall yr Ysgol Feddygol fanteisio ar seiliau ardderchog y gwaith partneriaethu sy’n digwydd yn barod rhwng Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.”

“Roeddwn wrth fy modd bod y cytundeb a gafodd ei daro rhwng Plaid Cymru a Llafur ar gyllideb ddrafft Cymru 2017/18 yn cynnwys ymrwymiad ariannol i ysgol feddygol ym Mangor. Rwyf rwan yn edrych ymlaen at weld yr achos fusnes sydd yn cael ei pharatoi ac at y trafodaethau manwl rhwng y partneriaid i gyd.”

Mae ymgyrch Siân Gwenllian yn cael ei hyrwyddo gan nifer yn y maes gan gynnwys dwy fyfyrwraig o ogledd Cymru. Mae Catrin Elin Owen a Elen Berry o Ben Llyn a Dinbych yn astudio meddygaeth yng Nghaerdydd, ond byddai’r ddwy wedi gwerthfawrogi’r cyfle i astudio yn y gogledd.

Dywedodd Catrin Elin Owen,

“Rydw i newydd fod ar brofiad gwaith yn Ysbyty Gwynedd yn treulio amser yn y Adran Niwroleg yn ogystal a Seicoleg ac Oncoleg ac mi ges i brofiad gwych. Mae Ysbyty Gwynedd yn gweithio’n agos efo Ysbyty Glan Clwyd a Walton yn Lerpwl er mwyn rhoi profiad eang i fyfyrwyr, felly mae’r isadeiledd yn ei lle yn barod.”

Mae Elen Berry hefyd ar ei phedwaredd flwyddyn yng Nghaerdydd ac yn ansicr ar hyn o bryd i ba gyfeiriad yr aiff hi yn feddygol.

“Dwi’n profi rhagfarn pan mae myfyrwyr yn cael cynnig profiad gwaith ym Mangor – dydyn nhw byth yn awyddus iawn i fynd oherwydd bod gymaint o bobol yn meddwl bod dim byd yna a dim byd i’w wneud. Ond unwaith maen nhw wedi bod does ganddyn nhw ddim byd ond pethau positif i’w dweud am y profiad. Dwi wir yn gobeithio y daw Ysgol Feddygol i Fangor yn y dyfodol agos, byddai’n datrys llawer o broblemau ac yn rhoi mwy o opsiynau i ddarpar-feddygon.”

 

 

 

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd