Dewch ag Ysgol Feddygol i Fangor, medd AC ac AS Arfon

Hywel_Sian_Esyllt_1.jpg 

 

Mae diffyg ysgol feddygol yng Ngogledd Cymru yn enghraifft o anghydraddoldeb cymdeithasol, medd Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol Arfon.

Dywed Sian Gwenllian AC a Hywel Williams AS bod y diffyg hyfforddiant i feddygon yng Ngogledd Cymru yn cael effaith wirioneddol ar iechyd pobl trwy achosi problemau wrth recriwtio staff meddygol i weithio yn y rhanbarth.

 

Dengys ffigyrau a ryddhawyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd yr wythnos hon fod cynnydd o 16% wedi bod yn y nifer o feddygon ifanc sy'n dewis dod i Gymru neu aros yma i hyfforddi. Serch hynny, mae lefelau recriwtio meddygon teulu a staff meddygol eraill yn parhau i fod yn llawer is yng Ngogledd Cymru na rhannau eraill o'r wlad.

 

Y llynedd, lansiodd y GIG yng Nghymru ymgyrch recriwtio genedlaethol a rhyngwladol, yn cynnwys bonws o £20,000 gan Lywodraeth Cymru i feddygon ifanc sy'n aros am o leiaf blwyddyn wedi hyfforddi mewn ardaloedd lle mae'n anodd denu a recriwtio meddygon. 

 

Tra'n croesawu ymdrechion i fynd i'r afael â gwella recriwtio, dywed AC ac AS Plaid Cymru mai dim ond ateb dros dro yw'r mesurau presennol.

 

Meddai Sian Gwenllian AC: "Mae'r prinder dybryd o feddygon teulu yn dal i fod yn broblem fawr sy'n cael effaith negyddol ar ansawdd y gofal iechyd i bobl yma yng Ngogledd Cymru. Mae hyn yn arbennig o wir yn yr ardaloedd mwyaf gwledig a difreintiedig.  

 

"Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gwario'n sylweddol fwy ar feddygon locum na byrddau iechyd eraill yng Nghymru, sy'n rhoi pwysau ariannol ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd yn y gogledd.

 

"Mae angen i ni ganfod ateb cynaliadwy i wella recriwtio yn yr hirdymor. Mae tystiolaeth yn dangos fod meddygon yn tueddu i aros i fyw a gweithio lle cânt eu hyfforddi. Mae'n amlwg felly ei bod yn hollol hanfodol ein bod yn hyfforddi meddygon yma yng Ngogledd Cymru – dydi cynnig bonws iddyn nhw i aros am flwyddyn ddim yn ddigon."

 

Ychwanegodd Hywel Williams AS: "Rydyn ni wedi bod yn galw am ysgol feddygol ym Mangor ers amser maith. Mae'n hen bryd i Lywodraeth Cymru wireddu'r addewid a wnaed flynyddoedd yn ôl pan sefydlwyd Betsi Cadwaladr.

 

"Mae'r ffaith bod y ddwy ysgol feddygol sydd yng Nghymru yng Nghaerdydd ac Abertawe – a dim un yma yn y gogledd – yn enghraifft arall o'r anghydraddoldeb sy'n wynebu nifer fawr o'n cymunedau.

 

"Mae'r anghydraddoldeb hwn o ran gofal iechyd yn rhan o ddarlun mwy lle mae pentrefi gwledig a threfi bach yn gweld mwy a mwy o wasanaethau cyhoeddus yn diflannu a lefelau cynyddol o ddifreintedd a phroblemau economaidd. 

 

"Mae diffyg ysgol feddygol yn y gogledd hefyd yn golygu nad oes gan ein pobl ifanc y gallu i ddewis hyfforddi fel meddygon yn eu cymunedau eu hunain. 

 

"Unwaith eto, rydyn ni'n galw ar Lywodraeth y Cynulliad i ddechrau dad-wneud yr anghydraddoldeb sylfaenol hwn trwy fuddsoddi mewn ysgol feddygol yng Ngogledd Cymru."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd