RHAID TRYDANEIDDIO
RHEILFFORDD GOGLEDD CYMRU
FEL MATER O FLAENORIAETH MEDD AS ARFON
AMSER I’R LLYWODRAETH WEITHREDU A DARPARU GWELL GWASANAETH I GYMUDWYR CYMRU
Mae AS Arfon, Hywel Williams, wedi ategu ei alwad ar Lywodraeth San Steffan a Gweinidogion Llafur yng Nghaerdydd i ddod i gytundeb ynglŷn â phwy ddylai ariannu’r gwaith o drydaneiddio Prif Reilffordd Gogledd Cymru gan fynd i’r afael â’r gwaith cyn gynted a phosib.
Dywedodd Mr Williams, sydd wedi ymgyrchu’n ddi-flino dros drydaneiddio’r rheilffordd rhwng Caergybi a Crewe, bod cymudwyr yng Ngogledd Cymru yn dioddef yn sgil oedi a diffyg penderfyniad, sy’n eu condemio i wasanaeth rheilffordd trydydd dosbarth, tra bod cymudwyr tros y ffîn yn elwa o fuddion trydaneiddio.
Dywedodd Mr Williams,
“Rwyf wedi dadlau’r achos sawl gwaith dros drydaneiddio Rheilffordd Gogledd Cymru, gan ddechrau rai blynyddoedd yn ôl wrth gyfarfod ag Awdurdod Strategol y Rheilffyrdd. Dylsai’r achos yma fod yn un o flaenoriaethau’r Adran Drafnidiaeth. Ond tra bod Llywodraeth San Steffan yn cael eu dallu gan gynllun HS2 a Llafur yng Nghaerdydd yn anwybyddu’r achos, mae teithwyr yn Arfon yn dioddef yn sgil diffyg penderfynu ac oedi gwleidyddol.
Mewn termau ymarferol, mae trydaneiddio’r lein rhwng Crewe a Chaergybi yn gwneud synwyr. Ar hyn o bryd, mae trenau sy’n teithio rhwng Llundain a Crewe yn teithio ddwywaith mor gyflym a threnau rhwng Crewe a Chaergybi. Nid yw’n dderbyniol bod teithwyr sy’n croesi’r ffîn i Gymru yn gorfod bodloni ar wasanaeth llai aml sydd gyffelyb â gwasanaeth trydydd dosbarth.
Mae nifer o’m etholwyr yn defnyddio’r tren o Fangor yn aml iawn, naill ai ar gyfer gwaith neu hamddena, gyda nifer yn teithio i Gaer i weithio. A yw’n dderbyniol felly fod y rhai sy’n cychwyn eu taith o Fangor yn gorfod eistedd ar y tren am dros ddwy awr dim ond er mwyn cyrraedd Crewe, pellter o 84 milltir, tra bod y rhai sy’n teithio o Lundain i Crewe yn cwblhau y daith o fewn dwy awr er eu bod yn teithio ddwywaith y pellter.
Yr hyn mae fy etholwyr eisiau yw gwell gwasanaeth, mwy am eu harian a buddsoddiad a fydd yn gwneud gwahaniaeth i’w taith. Mae cymudwyr yng Nghymru yn haeddu’r un gwasanaeth a bobl yn Lloegr. Gyda achos busnes cadarn dros drydaneiddio’r rheilffordd yn y Gogledd, mae pobl Arfon eisiau gwybod pam bod yna oedi a pham fod HS2 yn cael y flaenoriaeth, cynllun sy’n debygol o gymryd blynyddoedd i’w gwblhau.
Dylai’r Llywodraeth ganolbwyntio eu hymdrechion ar uwchraddio Rheilffordd Gogledd Cymru a symud ymlaen gyda’r trydaneiddio cyn gynted a phosib fel bod fy etholwyr ac eraill ar draws Gogledd Cymru, yn elwa o wasanaeth traws ffiniol cyflym a dibynadwy, gan roi Gogledd Cymru yn gydradd â gweddill y DU.
Mae cwestiynau diweddar ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth presenol yn sgil cynllun HS2 wedi amlygu pryderon. Rwy’n poeni yn benodol y bydd y rheilffordd bresenol yn cael ei defnyddio ar gyfer gwasanaethau lleol yn Lloegr. Gallai hyn olygu mai’r unig ddewis i gymudwyr i Ogledd Cymru fydd gwasanaeth araf neu tocyn drud ar HS2. Mae’r Llywodraeth yn dweud nad oes ganddynt fwriad i hyn ddigwydd ond mae’n berygl amlwg.”
Dangos 2 o ymatebion
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter